Ystyr 'cyflunio' i mi yw 'to fax' - ar sail cynnig ambell un yn nyddiau
cynnar periannau o'r fath i greu 'cyflunydd' am 'fax machine' a 'cyflunio'
am 'to fax'. Er gwell er gwaeth, methodd y ddau derm â chydio ...
Yn y rhestr o Dermau Technoleg Gwybodaeth sydd bellach ar wefan Bwrdd yr
Iaith, 'ffurfweddu' a roir am 'to reconfigure' ym maes cyfrifiadureg.
Byddwn i'n tybio y gellid dweud 'ailwampio' neu 'ail-lunio' i gyfleu'r 'to
reconfigure' sy'n fwy llac neu chwyddedig ei ystyr (e.e. this timetable has
been reconfigured to allow for staff absences'). Wela i ddim bod angen yr
elfen 'cyf-' (sy'n awgrymu bod dwy ochr i'r broses, fel yn 'cyf-weld' a
'cyfosod'), o gwbl.
O feddwl, os gallwch chi ailwampio, allwch chi wampio? Ystyr a chyd-destun
braidd yn wahanol sydd i'r term gwreiddiol 'to vamp' yn Saesneg erbyn hyn!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 13, 2005 12:46 PM
Subject: Re: Reconfigure
'Ailgyflunio' yr ydym ni'n ei ddefnyddio yma ym Mangor.
Helen
Ysgrifennodd Puw, John:
> Mae'n boeth a 'dwi newydd ddychwelyd o gyfieithu mewn cyfarfod awr a
> hanner oedd bron yn uniaeth Gymraeg - felly mae'r darn ymennydd sydd
> gennyf ar ôl wedi nogio!
> Os mai ffurfweddu yw configure, a ydwyf yn gywir os dywedaf ailffurfweddu
> am reconfigure?
> Diolwch
> John
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar
> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am
> eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
> this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
>
> North Wales Police
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.323 / Virus Database: 267.8.12/46 - Release Date: 11/07/2005
|