Hmm diddorol.
Yr eglurhad gawson ni oedd ei fod yn debyg i adael llwybr o friwsion wrth
fynd o wefan i wefan, fel bod modd dilyn y rheiny eto i fynd yn ol i'r un
wefan. (mae rhywun wedi son am 'crumbtrail' - doeddwn i rioed wedi clywed am
hwnnw o'r blaen).
Fel y mae modd glanhau cookies oddi ar eich cyfrifiadur, gallwch lanhau
briwsion oddi ar y llawr fel nad oes modd eu dilyn a bod rhaid mynd i
chwilio am y wefan o'r newydd.
Nid arbenigwyr Microsoft oedd y rhain gyda llaw.
Ond dyna fo. Mae unrhyw beth ond yr erchyllair 'cwcis' yn iawn gen i.
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 27, 2005 12:44 AM
Subject: Re: Cookies
>> Bu cryn drafod ar hyn wrth gyfieithu Microsoft Windows, ac ar gyngor
>> arbenigwyr cyfrifiadurol cytunwyd ar "briwsion" am cookies, gan mai dyna
>> ydi'r cysyniad y tu ol i'r peth mewn gwirionedd.
>
> Dyna ddangos faint mai Microsoft yn gwybod am hanes y gair 'te.
> (ei arch elyn Netscape a'i ddefnyddiodd gynta, yn addasu o
> syniadau yn systemau X/ Unix).
>
> Os am gyfieithu y gair o'i hanfod, rhyw fath o 'docyn' fase'r
> ystyr - ffordd o ddanfon gwybodaeth rhwng cleient a gweinydd
> mewn system 'ddi-stad' (stateless).
>
> Mae fel petai gwefan yn dweud "here's a cookie for you" (sydd dwi'n
> meddwl yn ymadrodd Americanaidd pan fo rhiant eisiau cael gwared
> ar blentyn yn swnian, nid fod hynny yn berthnasol iawn erbyn hyn).
>
> Mae'r porwr yn "bwyta'r" cookie ac yn ei boeri allan ar bob
> gofyniad i'r wefan yna o hynny ymlaen. Felly mae hyn yn creu
> cysylltiad 'stateful' allan o un 'stateless'.
>
> Mae'n debyg i'r bandiau rhif y cewch chi wrth fynd i nofio.. sdim
> wir ots beth sydd wedi ysgrifennu ar y band, dim ond fod e'n
> creu cysylltiad dros-dro, anhysbys rhyngddo chi a'ch locyr. Sdim
> angen i neb gadw cofnod canolog o unrhyw wybodaeth a mae'r un
> egwyddor mewn cysylltiad rhwng porwr a gwefan.
>
> Dyw 'briwsionyn' ddim yn gwneud llawer o synnwyr felly, a dyw e
> ddim yn datgelu unrhywbeth 'amlwg' i siaradwr Cymraeg am be yw
> cookies yng nghyd-destun technoleg. Y briwsion yw'r man wastraff
> sy'n cael ei greu wrth fwyta bisged, ond mae bisgedi yn rywbeth
> adnabyddus sydd i gyd yr un fath.
>
> Mae'r ddelwedd o 'cookie' yn cael ei ddefnyddio mewn termau
> pellach yn y maes gyda pethau fel 'cookie jar' (dyw bwyta paced o
> friwsion ddim yn apelgar iawn).
>
> Felly os nad ydym yn defnyddio term fel 'tocyn' sy'n eitha diflas
> ac yn ymddangos mewn geirfa technoleg/meddalwedd gyda ystyron
> arall, yna rhaid dewis rhwng cyfieithiad union gyrchol o cookies
> i 'bisgedi' (nid cacennau!) neu cymreigiaid i 'cwci'.
|