Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu sylwadau ar y pwnc hwn.
Mae'n amlwg nad oes term Cymraeg yn cael ei arfer ar lafar gwlad, felly
rhaid mynd ati i fathu un. Buasai addasu awgrym Mary yn 'cwcen'/'cwcod' yn
creu gair digon tebyg i'r Saesneg i bobl allu gweithio allan beth sydd dan
sylw.
Os oes gan y geiriau hyn ryw ystyr tafodieithol neu anllad na wn i amdano,
rhowch waedd electronig o fewn yr awr nesa os gwelwch yn dda! Yn absenoldeb
unrhyw broblemau o'r fath, fe anfonaf 'cwcen'/'cwcod' at y cleient fel
bathiad newydd, a disgwyl i weld a fydd Morrisons yn barod i frathu arnyn
nhw (os 'da chi'n dallt be dw i'n 'feddwl).
Wyn
|