Ie, Sonata i'r Piano, ond beth am Beethoven's Piano Sonata er enghraifft?
Dwi'n meddwl mai sonata Beethoven i'r piano faswn i'n ddeud wedyn - h.y.
faswn i byth yn defnyddio piano fel ansoddair - dim problem felly! (ond
petai raid, treiglo faswn i achos mae 'piano' yn disgrifio'r sonata - does
dim piano penodol dan sylw.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 20, 2005 10:35 AM
Subject: ATB: symffoni/sonata
Dwi'n siŵr mai 'i' yr oedd ein hathrawon cerdd ni'n ei ddefnyddio yn yr
ysgol - Sonata i'r Piano, Concerto i'r Piano a.y.b.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran annes
Anfonwyd/Sent: 20 June 2005 10:04
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: symffoni/sonata
Yr hen enwa benywaidd felltith yma eto - dwi byth yn siwr ddylwn i dreiglo
ar ol symffoni a sonata ee piano - weithia fedra i ddeud symffoni/sonata ar
gyfer y piano i ddod rownd y broblem ond weithia mae hynny'n glogyrnaidd.
Rheol bendant ogyd (hy dwi'n gwbod be ydi'r rheol ond yn yr achos yma fedra
i yn fy myw benderfynu i ba gategori maen nhw'n perthyn na prun sy'n
swnio/teimlo'n iawn). Diolch gyfeillion.
Annes
|