Dw i'n meddwl mai "sbeitio" fyddai'r plant yma'n ei ddweud. (os mai plant arall sy'n gas i'r plentyn am beidio â bod yn ddigon cŵl)
(Ac mae'n rhyw fath o gyfaddawd rhwng "slagio off" a "dishmoli" (sy'n air hyfryd ond yn dafodieithol iawn ac yn annhebygol o fod yn rhan o eirfa'r rhan fwyaf o blant heddiw gwaetha'r modd)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 14 June 2005 15:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Slagging off
Rwy'n credu bod "dishmoli" yn cyfateb yn weddol dda, neu i ni sy'n dod o'r
Cymoedd beth am "trin a threpu", sydd wedi'i nodi o dan "malicious" yng
Ngeiriadur yr Academi "to be malicious about s.o."
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 14 June 2005 14:49
To: [log in to unmask]
Subject: Slagging off
Cyd-destun: plentyn ysgol yn dweud : 'I get slagged off for not wearing
the "right" clothes'
Ydy'r term yn golygu bod pobl yn galw enwi arni, ynteu'n son amdani?
Ches i erioed weld "Pam Fi Duw" - be' fyddai plentyn Cymraeg o'r oes hon yn
ei ddweud - nid "slagio'r off" PLIS!
Ann
|