Dwi'n meddwl bod y dewis dros dro yn dda iawn.
Mae'n debyg y byddwn i'n mesur fy nghynulleidfa yn ofalus ac er i ti ddweud,
dwi wedi anghofio i bwy mae'r deunydd- henaint eto, biti drostaf, wir!
I bobl "feddygol" - mae'n debyg y byddwn i'n gadael allan y tonnau sioc
gan y disgwyliwn iddynt ddeall sut oedd uwchsain yn gweithio beth bynnag. Ac
felly, gallwn ddisgwyl iddynt "ddeall" yr extracorporeal hefyd. Falle mod
i'n disgwyl gormod a bod Cymry yn glyfrach na'r Saeson sydd yn gorfod cael y
teitl llawn!
Pe byddwn yn sgwennu'r daflen yn y lle cyntaf i gleifion mae'n debyg y
byddwn wedi gadael y tonnau sioc allan o'r Gymraeg a'r Saesneg! A dwi ddim
yn rhy siwr am yr extracorporeal chwaith!
Rhyfedd sut mae ymadrodd sy'n disgrifio yn union beth sydd ar y tun yn gallu
swnio fel pe bai wedi'i lunio i guddio pob ystyr ynte!
Dwi'n credu, fel disgrifiad manwl y byddwn i wedi setlo am chwalu cerrig
o'r tu allan i'r corff gydag uwchsain.
Dwi newydd brynu'r geiriadur Bydwreigiaeth newydd - y cyfieithiad o hen
Feibl bydwragedd - Bailliere - a bydd hwnnw yn help i ni benderfynu ambell
i derm nad yw ar gael yn unman arall - gwych, wrth fy modd hefo fo! - ond
doedd extracorporeal shock-wave lithotripsy ddim ynddo - ddim yn gyflwr
/triniaeth gyffredin mewn gwragedd beichiog, rhaid cyfaddef!
hwyl
magi
----- Original Message -----
From: "INC Cyfieithu Translation" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, June 11, 2005 3:04 PM
Subject: Re: Extracorporeal Shock-Wave Lithotripsy
> Diolch yn fawr iawn, iawn Magi.
>
> 'Chwalu Cerrig o'r Tu Allan i'r Corff gyda Thonnau Sioc Uwchsain' oedd ein
> dewis dros dro ni. Beth wyt ti'n feddwl o'r cynnig?
>
> Pob lwc yn yr ysbyty.
>
> Sue
> ----- Original Message -----
> From: <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, June 11, 2005 2:27 PM
> Subject: Re: Extracorporeal Shock-Wave Lithotripsy
>
>
>>a difyr iawn fu'r drafodaeth hon hefyd. Yn y lle cyntaf credaf gallwch
>>chwalu cerrig eraill heblaw rhai yn yr aren gyda'r driniaeth hon - yn y
>>goden fustl (gall bladder i chi a fi) hefyd.
>> Oes raid i'r teitl hwn ddilyn y Saesneg yn slafaidd? Gall y Gymraeg fynnu
>> fynd ei ffordd ei hun a gwrthod mabwysiadu termau sy'n anealladwy i lawer
>> o'r boblogaeth nad oeddynt yn ddigon ffodus i ddysgu Lladin /Groeg.
>>
>> fyddai anymwthiol yn fwy dealladwy?
>> Chwalu cerrig yn anymwthiol?
>> Chwalu cerrig heb lawdriniaeth?
>>
>> Fedra i ddim yn fy myw gofio'r prynhawn ma os mai ultrasound a ddefnyddir
>> ar gyfer y gwaith hwn (daeth y dechneg yn ffasiynol ar ol fy amser i, yr
>> hen begor)
>> Os felly gallech ddefnyddio
>> chwalu cerrig gydag uwchsain neu ryw amrywiaeth ar hynny
>> ond Dafydd, sori, wnaiff dy fersiwn di mo'r tro, dim ots os yw'n
>> llythrennol gywir - meddylia am y cleifion druan.
>> Dwi'n mynd i'r ysbyty fy hun fory am lawdriniaeth a gwyliau o'r gwaith
>> cyfieithu a phe byddai rhywun yn dweud wrthyf i mod i am gael
>> maenfaluriad siocdon allgorfforol byddwn wedi troi ar fy sawdl a mynd
>> adre'n ol!
>> magi
>> ----- Original Message -----
>> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Saturday, June 11, 2005 1:23 AM
>> Subject: Re: Extracorporeal Shock-Wave Lithotripsy
>>
>>
>>> maenfaluriad siocdon allgorfforol?
>>>
>>> Dafydd
>>>
>>>
>>> On Fri, 10 Jun 2005 15:53:29 +0100, INC Cyfieithu Translation
>>> <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>>>Triniaeth malu cerrig yn yr arennau wrth ddefnyddio 'shock-waves' o'r tu
>>> allan i'r corff.
>>>>
>>>>Llawer iawn o ddiolch ar brynhawn dydd Gwener!
>>>>
>>>>Sue
>>>
>>>
>>
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Anti-Virus.
>> Version: 7.0.323 / Virus Database: 267.6.7 - Release Date: 10/06/2005
>>
>>
>
>
|