Cytuno! Ond nid annog creu un oeddwn i, ond gofyn a oes un. Arhosaf ychydig
eto, ond os na chlywaf yn wahanol mae'n debyg yr anfonaf fersiwn Dyfed Wyn
Edwards, sydd yr un mwyaf modern, a chyda "cringe-factor" llai na rhai.
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 22, 2005 11:00 AM
Subject: Re: Hen Wlad Fy Nhadau
> Mae'n well peidio cael fersiwn "swyddogol" ddywedwn i, neu pa mor hir fydd
> hi cyn i Lafur yn y Cynulliad fynnu ei bod yn cael ei defnyddio ochr yn
ochr
> a'r Gymraeg ymhob man (er mwyn bod yn gynhwysol ac nid yn hiliol wrth
gwrs).
> Os oes gen ti 4 fersiwn, be di'r broblem? Jyst rho un ohonyn nhw iddo fo.
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, June 22, 2005 10:51 AM
> Subject: Hen Wlad Fy Nhadau
>
>
> > Neithiwr gofynnodd rhywun i Bruce am fersiwn Saesneg o'r Anthem
> > Genedlaethol. "Mae gen i gopi", meddwn i.
> > Ond o edrych, mae gen i gopiau o o leiaf 4 fersiwn:
> > The land of my fathers, how fair is thy fame ... W G Rothery
> > O land of my fathers, O land of my love ... A P Graves
> > The land of my fathers is dear unto me ... J (Twrch-fab?) Owen
> > ditto ... Dyfed Wyn Edwards
> >
> > 'Rwyf wedi defnyddio Google i chwilio safleoedd y Cynulliad a Bwrdd yr
> > Iaith
> > (oni fyddai'n syniad da i roi o leiaf y fersiwn Cymraeg ar safle'r
ail?) -
> > ai fi sy'n methu rhywbeth?
> >
> > A oes fersiwn "swyddogol", ac yn well byth, a all rhywun anfon y geiriau
> > ataf, os gwelwch yn dda?
> >
> > Diolch yn fawr iawn,
> >
> > Ann
> > 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS
> > (01248) 371987
> > [log in to unmask]
>
>
|