Byddai 'undonog' yn reit agos at yr ystyr, ond byddai angen bod yn
ofalus rhag sarhau'r rhai sy'n gwneud y math hwnnw o waith! Beth am
bobl sy'n gwneud gwaith llaw a gwaith sydd heb lawer o amrywiaeth?
Helen
Ysgrifennodd Sylvia Prys Jones:
> Dal i ymlafnio trwy'r ddogfen iechyd.....
>
> Mae'r ddogfen yn trafod gwahanol arferion fel smygu, ymarfer corff,
> bwyta ffrwythau a llysiau etc a''r berthynas rhyngddynt ag oedran, grwp
> economaidd-gymdeithasol etc. Mae'n trafod galwedigaethau 'managerial and
> professional' a hefyd 'routine and manual'. Unrhyw syniadau ar gyfer
> 'routine occupation'? Os dw i'n defnyddio 'arferol' mae'n swnio fel
> tasai'r person yn gwneud rhywbeth arall yn ei amser sbâr.
>
> Diolch unwaith eto
>
> Sylvia.
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|