Rydym wedi penderfynu dweud 'coed di-gôn' yn hytrach na defnyddio
'coetir .....' wedi'r cyfan. Mae'r adnodd wedi'i anelu at blant 10 oed,
a fydd yn dysgu defnyddio mapiau Arolwg Ordnans maes o law, ac felly os
mai 'coed di-gôn' sy'n ymddangos ar eu mapiau nhw yn yr allwedd, wel
dyna ni amdani!
Diolch am y sylwadau.
Meleri
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 23 June 2005 15:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: non-coniferous woodland
Ym... "woodland" oedd yn y term gwreiddiol beth bynnag, felly "coetir"
fyddai'r gair ac nid "coed", nage fe?
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 23, 2005 3:07 PM
Subject: Re: non-coniferous woodland
Dwi'n meddwl bod coed yn cael ei ddefnyddio fel enw torfol yma yn
hytrach na lluosog coeden, felly mae coed di-gonwydd yn swnio'n iawn i
mi.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 23, 2005 2:58 PM
Subject: Re: non-coniferous woodland
Dyw "coed di-gonwydd" ddim yn swnio'n iawn i mi.
"Conwydd" yw lluosog "conwydden" felly mae "coed di-gonwydd" yn swnio'n
od. Mae "coedwig ddi-gonwydd" yn swnio i mi fel "coedwig nad yw'n
cynnwys yr un gonwydden" yn hytrach na choedwig o goed anghonifferaidd.
Dw i'n meddwl mai dyna'r term gorau - er ei fod braidd yn anodd ei
ddarllen - "anghonifferaidd"
Cofion
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Løvgreen
Sent: 23 June 2005 14:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: non-coniferous woodland
coed di-gonwydd sy'n swnio orau i mi
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 23, 2005 2:03 PM
Subject: Re: non-coniferous woodland
Wrth feddwl, gall coed fod yn ddi-go^n, ond, meddai, Bruce, mae'n well
disgrifio coedwig fel rhywbeth fel "heb fod yn
goniferaidd/anghonifferaidd/[d]di-gonwydd"
Ann
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 23, 2005 11:44 AM
Subject: Re: non-coniferous woodland
> Yn
>
http://www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/education/pdf/50KLegend-Welsh.
pdf
> ceir 'coed di-gôn' am 'non-coniferous trees'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Meleri Haf Hughes" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, June 23, 2005 11:33 AM
> Subject: non-coniferous woodland
>
>
> >A oes rhywun yn gwybod beth yw'r term Cymraeg am non-coniferous
plis?!
> >
> > Diolch
> >
> > Meleri
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.323 / Virus Database: 267.7.11/26 - Release Date:
22/06/2005
> >
> >
>
>
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
|