Mae'r term 'hawl-ddalwyr' yn newydd i mi. Rwy newydd siecio ym mhroflen
Y Termiadur Ysgol newydd a 'rhanddeiliaid' sydd yn hwnnw (mae Termau
Busnes Safon A wedi'u cynnwys). Roeddwn i'n arfer defnyddio
budd-ddeiliaid, a byddwn yn dal i'w ffafrio mewn rhai cyd-destunau (sef
pan fydd y deiliaid yn cael budd wrth gwrs!). Dewiswyd 'rhanddeiliaid'
ar sail statws 1 TermCymru a'r ffaith fod 'rhan' yn fwy eang ei ystyr na
'budd'.
Oni bai fod yma ystyr gwahanol fel yr awgryma Berwyn (h.y. mai son am
'rights holders' y maen nhw mewn gwirionedd) fyddwn i ddim yn hapus i
ddrysu pethau drwy dderbyn y term 'hawl-ddalwyr'.
Rwy wedi ceisio ffonio CBAC i gael gair gyda nhw - heb lwyddo eto. Fel
arfer mae ymgynghorwyr CBAC yn dda iawn am ymgynghori gyda ni ar dermau
dadleuol - wn i ddim beth aeth o le yma. Rwy nawr wedi siarad gyda'r
cyfieithydd gwreiddiol hefyd sydd wedi egluro pam y bu iddyn nhw ddewis
'hawl-ddalwyr' - roedd yn son am weithwyr mewn cwmni oedd yn cael
hawliau arbennig hefyd, ac fe gafwyd trafodaeth fanwl ar y term. O
chwilio'r we, roedd 5 enghraifft o 'hawl-ddalwyr' (i gyd o ddeunydd
CBAC), 577 o 'rhanddeiliaid' a 574 o 'budd-ddeiliaid'.
Mae'n anodd felly! Byddwn i'n hoffi gwybod ar ba sail y penderfynodd
TermCymru ddewis 'rhanddeiliaid' yn hytrach na 'budd-ddeiliaid' - fedr
rhywun o'r Cynulliad ein helpu?
Fel arall mi allai John druan gael cais i newid pob enghraifft o
'budd-ddeiliaid' yn ei lyfrau - ond nid i 'hawl-ddalwyr' fel y gofynnwyd
iddo (John, ti'n siwr o fod yn difaru agor dy ben).
Beth bynnag, mae wedi dod yn ddiwedd p'nawn erbyn hyn a finnau fawr
callach. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi gymryd cyngor pellach fory.
Byddwn i'n croesawu sylwadau eraill gan y cylch yn y cyfamser.
Delyth
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
>Na, ond "budd" yn yr ystyr "interest" ("buddiant") sydd yma hwyrach.
>
> ----- Original Message -----
>From: "Tiplady, Lisa (APS RoP)" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, May 12, 2005 12:21 PM
>Subject: Re: stakeholders
>
>
>Ond a yw "stakeholders" bob amser yn cael "budd" o'r hyn y mae ganddynt
>"stake" ynddo?
>
>-----Original Message-----
>From: Geraint Løvgreen [mailto:[log in to unmask]]
>Sent: 12 May 2005 12:15
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: stakeholders
>
>"rhanddeiliaid" sydd yn Term Cymru (statws 1) gan y Cynulliad. Mae
>"budd-ddeiliaid" yn derm dealladwy sydd wedi ennill ei blwyf hefyd.
>
>Be sy'n bod ar CBAC yn trio cymhelthu'r dyfroedd eto fyth? Ddylai rhywun
>gael gair bach efo nhw?
>
>----- Original Message -----
>From: "John Williams cyfieithydd YMLL"
><[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, May 12, 2005 12:19 PM
>Subject: stakeholders
>
>
>Mae sôn am gemeg yn f'atgoffa i o 'fume-cupboards' a dwi'n 'fuming mad'
>oherwydd y cyfieithiad o'r gair stakeholders.
>
>
>Dwi newydd orffen cyfieithu tri llyfr Astudiaethau Busnes Lefel A a dewisais
>'budd-ddeiliaid' am stakeholders, lle gynt defnyddiai rhai hapddalwyr.
>Credais mai budd-ddeiliaid oedd hoff ddewis CBAC. Dwi newydd gael rhywun i
>mewn yma yn gofyn i mi newid pob un - 150 o dudalennau, a rhoi hawl-ddalwyr
>yn eu lle gan mai dyna'r term mae CBAC yn ei ffafrio erbyn hyn.
>
>All rhywun o blith y 'powers that be' fy ngoleuo plis?
>
>
>
>Mr John D Williams
>Ysgol Morgan Llwyd
>Cyfieithydd Ysgol
>Sir Wrecsam
>
>
>
>
>______________ ______________ ______________ ______________
>Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk
>
>
>
>
>
>
>* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
>* * * * * *
>
>This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely
>for
>the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you
>are not
>the intended recipient and have received this e-mail in error, any use,
>dissemination,
>forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are
>requested to
>contact the sender and delete the material from any computer. Opinions,
>conclusions
>and other information in this message that do not relate to the official
>business of
>Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor
>endorsed by it.
>
>Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
>ac fe'i
>bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad
>chi yw'r
>derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy
>gamgymeriad,
>gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
>chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o
>bob
>cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol
>Wrecsam
>yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y
>neges hon nad
>yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
>
>* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
>* * * * * *
>
>
>--
>Internal Virus Database is out-of-date.
>Checked by AVG Anti-Virus.
>Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.0 - Release Date: 29/04/05
>
>PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
>
>On entering the GSi, this email was scanned for viruses by the Government
>Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis
>in partnership with MessageLabs.
>
>Please see http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf
>for further details.
>
>In case of problems, please call your organisational IT helpdesk.
>
>NODER: DERBYNIWYD Y NEGES HON O'R RHYNGRWYD.
>
>Wrth fynd ar GSi, cafodd y neges e-bost hon ei sganio am feirysau gan
>wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir
>yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
>
>Gweler http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf i
>gael mwy o fanylion.
>
>Os cewch unrhyw broblem, ffoniwch desg gymorth TG eich sefydliad.
>
>The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure
>Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in
>partnership with MessageLabs.
>
>On leaving the GSi this email was certified virus-free.
>
>Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan
>wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir
>yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
>
>Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
>
>
>--
>Internal Virus Database is out-of-date.
>Checked by AVG Anti-Virus.
>Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.0 - Release Date: 29/04/05
>
>
>
|