Mae'r diffiniad yn swnio'n iawn. Wn i ddim pa fath o ddosbarth sy gynnoch
chi (gloywi iaith?) ond efo dysgwyr bydda i jyst yn defnyddio lot o
enghreifftiau - caws Cymreig, llyfr Cymraeg, cerddoriaeth Gymreig,
barddoniaeth Gymraeg. Mae'n rhaid pwysleisio bod ni'n defnyddio Cymru i
gyfieithu Welsh wrth sôn am gyrff cenedlaethol ac wrth gwrs y ffordd gywir o
gyfieithu 'I'm Welsh' er bod lot o bobol ffordd hyn (gan gynnwys fy mhlant)
yn dweud 'Dw i'n Gymraeg.'
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 May 2005 12:26
To: [log in to unmask]
Subject: Cymraeg a Chymreig
Dim brys, ond bydd yn rhaid imi drafod hyn gyda'r dosbarth y prynhawn 'ma.
Tybed pa fath sgiliau y mae eraill yn eu defnyddio i ddod draws yr anhawster
yn y geiriau uchod. Gwn fod y cyfieithiad yn dibynnu ar y cyd-destun, ond
mae'r ddau air yn codi mor aml yn fy nghofnodion o hen gyfieithiadau fel na
allaf ddod o hyd i'r enghreifftiau y mae arnaf eu heisiau.
Welsh-speaking/language and Welsh in nature/identity??
Diolch,
Ann
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
|