Yn rhyfedd iawn, ges i ffrae am hyn ddoe - rhyw benbwl o gynlluniwr
busneslyd isio newid logo Artist y Flwyddyn Cymru yn Artist Cymreig y
Flwyddyn (ar ol i mi dreulio 3 blynadd yn cael ganddyn nhw ei newid yn y
lle cynta). Roeddwn i'n gandryll - nid yn unig am ei fod yn anghywir ond
hefyd am i'r pen dafad, mae'n debyg (doeddwn i ddim yn cyfathrebu ag o'n
uniongyrchol), ddeud na doedd o 'ddim yn gyfieithiad llythrennol'. Wna i
ddim pregethu - fedrwch chi i gyd ddallt pam on i wedi gwylltio gymaint ar
2 lefel. Ta waeth ar ol ebost eirasboeth mae'r broblem wedi'i datrys.
Newydd gael teitl i'w gyfieithu y mae peryg iddo fod yn glogyrnaidd. 'Welsh
applicants to RWCMD'. Tybad ai 'Ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith am le yn CBCDC'
fyddai'n taro orau yn y cyd-destun yma? Neu 'Cymry Cymraeg sy'n gwneud cais
am le yn CBCDC'? Mae 'applicants to' ynddo'i hun yn boen - mae gofyn rhoi
'am le' decini? Diolch am unrhyw gyngor.
Annes
. . .
Ar y trywydd yma, mae un cyfeirlyfr Eidaleg yo cyfeirio at C. S. Lewis fel 'scrittore irlandese'. Gallaf feddwl am 3 ffordd o drosi hyn i'r Gymraeg, a 5 cyfieithiad dichonol i'r Wyddeleg.
Hwyl a fflag,
Tim
|