Mae'r darn sydd gen i yn cyfeirio at y fall-back position os bydd cais
cynllunio'n methu. Bron y gellid fod wedi dweud y 'statws quo' yn yr achos
hwn, ond mae'n ymddangos mai'r ystyr ar y cyfan yw 'beth sy'n mynd i
ddigwydd os nad yw X yn bosibl' . Gwelaf o fy stoc o restrau bod Prifysgol
Cymru, Aberystwyth, yn son am 'fall-back qualification' (cymhwyster wrth
gefn) a bod Prifysgol Cymru'n son am "fall-back awards' (dyfarniadau
syrthio'n ol - !). A yw rhywun wedi defnyddio ymadrodd arall? A fyddwn i'n
crwydro'n rhy bell o'r Saesneg o dweud "y dewis arall"? 'Dw i ddim wedi
gofyn barn Bruce eto, er mwyn rhoi amser imi gasglu unrhyw ddewisiadau
eraill!
Ann
|