Dwy ddim yn meddwl taw'r cynghorau sydd ar fai... yn llwyr. Y Cynlleied
sy'n gyfrifol am yr arwyddion ar lawer o'r ffyrdd, a'r Swyddfa Gymreig oedd
wrthi cyn i'r Cynlleied gael ei greu.
Yn ôl yn nyddiau du George Thomas yn y 60au, pan ddechreuon nhw godi
arwyddion dwyieithog - yn gyndyn iawn wrth gwrs - rwy'n credu bod cefnogwyr
arwyddion dwyieithog wedi bodloni ar wneud hanner job am fod hynny'n gymaint
o naid ymlaen, a'u bod nhw mor falch o weld "Barri" etc nes derbyn y gallen
nhw wneud y tro heb ryw fanion fel y fannod. (Efallai bod hepgor gair yn
arbed lle a ac yn arbed costau paent hefyd?)
Yn yr un modd, doedd enwau lleoedd yn Lloegr ddim yn cael eu dangos yn
Gymraeg, ar arwyddion y draffordd er enghraifft - dim ond London a Bristol
welech chi: hanner job wedi'i wneud eto.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 24 May 2005 18:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Y ynteu y?
Cwestiwn arall sy'n gysylltiedig a chwestiwn yr "Y ynteu y" yw paham mae
cynghorau De Cymru'n hepgor yr 'y' ar arwyddion ffyrdd, e.e. Barri yn lle
'Y Barri' ac ati.
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.322 / Virus Database: 266.11.15 - Release Date: 22/05/2005
|