Sylweddolaf nad ydw i'n debyg o gael llawer o ymateb i'r neges hon tan yr
wythnos nesaf, ond mae gen i tan wythnos i ddydd Llun i gwblhau'r gwaith.
Dw i wrthi'n cyfieithu adroddiadau ar ymchwil i fywydau pobl hoyw, lesbiaidd
a deurywiol sydd ag anawsterau dysgu. Mae un fersiwn o'r adroddiad mewn
iaith academaidd/gwaith cymdeithasol, a'r llall i fod yn 'hawdd ei
ddarllen'. 'Rwyf wedi bod wrthi'n edrych ar fersiynau Cymraeg a Saesneg o
ddogfennau mudiad Stonewall a byddwn yn falch os gall rhywrhai gadarnhau'r
argraffiadau canlynol:
Mae'n ymddangos imi:
fod 'pobl hoyw, lesbiaidd a deurwyiol' yn fwy derbyniol na 'hoywon, lesbiaid
a phobl deurywiol';
nad oes gair arall heblaw 'si^n' ar gyfer 'scene' (h.y 'the gay scene');
nad oes ymadrodd heblaw 'dod allan/mas' ar gyfer 'to come out', a "bod allan
i" ar gyfer 'to be out to' (h.y. bod yn agored yngylch eich rhywioldeb yng
nghwmni'r hwn-a-hon). Diolch byth nad yw 'to be outed' wedi codi - hyd yn
hyn.
Cymeraf fod pobl hoyw, wrth siarad bob dydd, yn son am 'ddod allan', ond ar
y llaw arall efallai bod cyfieithydd/cyfieithwyr y dogfennau hyn wedi gorfod
brwydro ymlaen heb wybodaeth bersonol o'r 'si^n' ('roeddwn i'n hoffi'r
cyfieithiad 'os nad ydych chi'n mynd allan i weithio' ar gyfer 'if you are
not out at work'!).
Byddwn i'n ddiolchgar am unrhyw ganllawiau, ar gyhoedd neu drwy neges
bersonol, rhag ofn imi dramgwyddo. Mae'n reit bosibl y bydd gen i ragor o
ymholiadau wrth fynd ymlaen.
Ann
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]
|