Fe wnes i rydd gyfieithu rhyw slogan fel "Ewch amdani!" slawer dydd ond
pan ddaeth y proflenni nôl roedden nhw wedi'i osod ar bwys llun o ferch
bert felly roedd rhaid ei newid ar frys - dw i ddim yn cofio beth roies
i wedyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
[log in to unmask]
Sent: 25 April 2005 15:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: get a life, get sorted, get onto careerswales.com
Does dim rhaid dilyn y patrwm yn slafaidd wrth gwrs - a mae'n well gen i
ewch amdani ayyb. Beth am ewch ymhell? Dyna oedd fy hen athraown i yn
ei
ddweud am ddisgyblion - mi eith o neu hi yn bell (tydyn nhw ddim yn
treiglo
a phethau cysetlyd o'r fath yn C'nafron....a wnaeth nhw rioed ddweud
hynny
amdanaf i!). Mae mynnu bywyd yn swnio fel slogan i bobl sy'n erbyn
erthyliad......neu'n erbyn euthanasia! Braidd dros ben llestri i job!
Gofynnwch i Meinir Eluned - mae ei doniau sgwennu hi yn wych!
magi
----- Original Message -----
From: "Steven Gibbs" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 25, 2005 3:05 PM
Subject: get a life, get sorted, get onto careerswales.com
Mae cyfieithwyr allanol wedi bod yn gweithio ar ddeunyddiau marchnata i
ni. Ar gyfer "Get a life, get sorted, get onto... careerswales.com" eu
cynnig gorau oedd "Mynnu bywyd, mynnu trefn, mynnu gair ... " I mi,
mae'r
ddau gyntaf yn gweithio'n berffaith ond dyw'r trydydd ddim yn cyfleu
ystyr
y Saesneg yn iawn.
Opsiwn arall yw dweud rhywbeth fel: "Ewch amdani, ewch ------, ewch i
gyrfacymru.com"
All unrhyw un lenwi'r bwlch i ni neu gynnig rhywbeth gwell??
Bydd y taflenni'n cael eu hargraffu tua diwedd yr wythnos, felly does
dim
llawer o amser ar tl yn anffodus!
Diolch yn fawr o flaen llaw!
Steve
|