Pwynt ymylol, efallai, ond byddwn i'n dadlau bod y 'toriad' yn rhediad y
frawddeg naturiol Gymraeg yn digwydd mewn man gwahanol i'r toriad ('that if
...') yn y frawddeg Saesneg. Oni fyddai hi, felly, yn fwy naturiol dweud:
1. Os na fyddwn wedi cael y [neu 'os na chawn ni'r] balans gennych erbyn
xxxx, rhaid i mi eich hysbysu y byddwn yn cychwyn achos cyfreithiol a fydd
yn cynnwys hawliad am logau [neu 'hawlio llogau'] o 8% yn ogystal â ffi
cyflwyno a chostau cyfreithiol.
[sef rhoi'r cymal 'that ...' ar ddechrau'r frawddeg a rhoi gweddill y
frawddeg i'w ddilyn. (Gellid hefyd ddileu'r ymadrodd 'rhaid i mi eich
hysbysu y' gan adael 'Os na fyddwn wedi cael y balans o £xxx gennych erbyn
xxxx, byddwn yn cychwyn achos cyfreithiol ...)]
2. Rhaid i mi felly eich hysbysu y byddwn ni, os na fyddwn wedi cael y
balans o £xxx
gennych erbyn xxxx, yn cychwyn achos cyfreithiol a fydd yn cynnwys hawliad
am logau [neu 'hawlio llogau'] o 8% yn ogystal â ffi cyflwyno a chostau
cyfreithiol.
[sef torri'r frawddeg ar ôl y ferf gan roi gweddill y fferf i dddilyn ar ôl
y cymal 'os ...']
neu
3. Rhaid i mi felly eich hysbysu o hyn: os na fyddwn wedi cael y balans o
£xxx gennych erbyn xxxx, byddwn yn cychwyn achos cyfreithiol a fydd yn
cynnwys hawliad am logau [neu 'hawlio llogau'] o 8% yn ogystal â ffi
cyflwyno a chostau cyfreithiol.
[sef defnyddio'r ymadrodd 'fel hyn:' i greu toriad (mwy bygythiol efallai),
a rhedeg gweddill y frawddeg yn ei blaen]
Y drwg yn y caws fan hyn, wrth gwrs, yw'r gystrawen Saesneg gyffredin 'that
if/while/although/when/on/in'. Mater o farn a chwaeth yw pa un o'r patrymau
uchod a ddefnyddiwch chi mewn cyd-destun penodol, ond fe ddylai un ohonynt
weithio!
O ran 'ffi cyflwyno/gyflwyno', 'ffi gladdu' sydd yn y Termiadur am 'mortuary
fee'.Bydda i'n ofni weithiau ein bod ni'n defnyddio gormod ar 'cyflwyno':
gallai 'ffi gyflwyno' olygu 'presentation fee', 'submission fee', 'issue
fee' a sawl 'fee' arall efallai. Byddai angen cyfreithiwr i ddweud p'un
fyddai'r cyfieithiad cywiraf.
Maddeuwch y truth!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "INC Cyfieithu Translation" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 20, 2005 10:06 PM
Subject: Re: issue
Rhaid i mi felly eich hysbysu. os na fyddwn wedi derbyn y balans o £xxx
gennych erbyn xxxx, y byddwn yn cychwyn achos cyfreithiol a fydd yn cynnwys
hawliad am logau o 8% yn ogystal a ffi cyflwyno a chostau cyferithiol.
Ymddiheuriadau am absenodeb y toeau bach.
Wil
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 20, 2005 8:32 PM
Subject: issue
Mae dwy enghraifft o'r gair yn y frawddeg :
"I must therefore inform you that if we have not received the balance of
£xxx.xx from you by xxxxx we will issue proceedings which will involve a
claim for interest at 8%, plus an issue fee and solicitors costs."
issue proceedings + issue fee
Cychwyn achos?
Ffi cychwyn achos / Ffi achos?
Diolch
Siân
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
|