Ysgrifennodd Ann Corkett:
> Hyd yn hyn 'rwyf wedi siarad ag is-reolwr ym Mangor a ffonio Gwasanaethau
> Cwsmeriaid Morrisons ddwywaith, yr ail dro dros wythnos yn ol, i ofyn yn
> boleit beth yw eu polisi tuag at y Gymraeg.....
> Byddai'n gysur imi gael gwybod bod rhywun wrthi ar hyn o bryd yn
> cyfieithu'r holl arwyddion sydd eu hangen, a bod y safon yn debyg o fod
> yn uwch na rhai o arwyddion yr hen Safeways. Peth arall a oedd yn
> ddirgelwch imi yn amser Safeways oedd pam 'roedd y camgymeriadau yn
> wahanol ym Mangor, yn Aberystwyth ac yng Nghaernarfon, sy'n awgrymu
> iddynt wastraffu eu harian ar gyfieithu'r arwyddion fesul siop yn lle
> ymddiried y cyfan i un cyfieithydd neu asiantaeth.
>
> Rhif ffon Morrisons yw [ ] os oes ar rywun eisiau cynnig ei
> wasanaeth neu wneud ymholiad.
Bûm yn cyfieithu arwyddion i Morrisons (drwy asiantaeth yn Swydd Efrog) ers
haf 2000. Maent yn gofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol, ond byddaf
yn edrych ar hen gyfieithiadau -- drwy law Déjà Vu erbyn hyn -- er mwyn
sicrhau cysondeb. Cefais restr go faith o arwyddion i'w cyfieithu ar gyfer
cangen Bangor ganol fis Rhagfyr, a dwy restr ychwanegol fechan ers
dechrau'r mis hwn (negeseuon Ann yn cael effaith, mae'n rhaid!).
Rwy'n falch fod Ann Wiliam yn hoffi'r arwyddion Cymraeg yng nghangen y
Rhyl. Honno oedd y gangen gyntaf y gofynnwyd i mi ddarparu arwyddion ar ei
chyfer (adeg ei hagor), ond pan ymwelais â'r siop am y tro cyntaf ychydig
cyn y Nadolig y llynedd, roeddwn i'n siomedig o weld bod yr arwyddion yn
crogi o'r nenfwd ac mewn mewn glas gwan, tra'r oedd yr arwyddion Saesneg
wedi eu gosod ar bennau'r silffoedd, ac mewn coch (sydd yn un o'r
lliwiau 'poeth', ac felly'n taro'r llygad yn gyflymach ac yn gryfach na'r
lliwiau 'oer', sef glas, gwyrdd a'u deilliaid).
Ann C -- efallai ei bod hi'n amser sgwennu at Morrisons ynglyn â'u dulliau
cyflwyniad gweledol!
Gyda llaw, un fantais o ofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol yw fod
hynny'n ei gwneud yn bosibl amrywio rhai cyfieithiadau yn ôl tafodieithoedd
rhanbarthol. Y tro cyntaf hwnnw, tynnais sylw Morrisons at y gwahanol
eiriau tafodieithol a ddefnyddir am 'sweets', er enghraifft.
Wyn
|