Wel, dim ond mynd i'r mynegai wnes i, chwilio am cystal (treiglo yn y
dibeniad) a mynd i baragraff 6.26!
Diogi ydi hyn, Palmer! ;-)
----- Original Message -----
From: "Palmer Parry x" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 11, 2005 10:54 AM
Subject: Re: 'byddwch gystal' ynteu 'byddwch cystal' ?
Diolch i bawb am y goleuni. "byddwch cystal" a ddefnyddiaf er bod y llall yn
swnio'n well.
(I mi, roedd hyn yn gynt o lawer na chwilota yn Peter Wynn Thomas - sydd bob
amser yn job chwarter awr o leiaf. Fel deudodd Sylvia, trueni na fyddai PWT
ar gael yn electronig)
Palmer
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 11, 2005 10:27 AM
Subject: Re: 'byddwch gystal' ynteu 'byddwch cystal' ?
Mae treiglo dibeniad neu beidio fel pe bai'n bwnc dadleuol. Yn sicr,
fyddai neb fyth yn dweud "Bu marw hwn a hwn"!
Ar un llawr, ceir "Mi sydd fachgen ieuanc ffôl", ac ar y llaw arall "Daw
dydd y bydd mawr y rhai bychain", felly ymddengys nad oes dim rheol
benodol. Os felly, tybiwn fod y ddau fersiwn isod yn gywir.
Gyda llaw, mewn Llydaweg "Me zo mew" a "N'on ket mew" sy'n iawn!!!
Helen
Ysgrifennodd Palmer Parry x:
> Daeth Gwgl o hyd i 410 'byddwch gystal' ond 1310 'byddwch cystal'. Pa un
> sy'n gywir?
> Palmer
>
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.7.1 - Release Date: 09/03/05
|