On Thu, 10 Mar 2005 09:26:11 -0000, David Bullock
<[log in to unmask]> wrote:
> "Rhaglennig" a "rhaglenigion" ddefnyddies i wedyn (y ffurf luosog drwy
> gydweddiad â Cheredigion wrth gwrs!)
Er gwybodaeth (dylwn fod wedi ymateb ynghynt, ymddiheuriadau) dyma'r
ffurfiau a ddefnyddir gan brosiect penbwrdd GNOME. Rhaglenni bach sy'n
ymddangos yn y bar tasgau yw'r 'applets' yn y cyd-destun hynny. Does
gan Windows ddim llawer sy'n union debyg, ond a bwrw eich bod yn
defnyddio Windows ar hyn o bryd, mae'r cloc yng nghornel isaf eich
sgrin yn enghraifft o rywbeth a ellid ei alw'n 'raglennig' pe bai'n
ymddangos yn GNOME.
Mae'n debyg bod y cyngor o beidio cyfieithu 'applet' wedi deillio o
ddryswch ynghylch technoleg Java, lle defnyddir y term 'applet' i
olygu, yn syml, 'rhaglen Java'. Sun sy'n berchen y dechnoleg, ond
dydyn nhw ddim wedi gosod nod masnach ar y term applet. Ac mae 'na
ddefnydd ychydig yn ehangach i'r term hefyd. Felly, yn fy marn
bersonol i, mae'n iawn ei gyfieithu.
Hwyl
Rhys
--
http://cysyllta.blogspot.com/
|