Meddai Berwyn, parthed treigladau:
> Heddiw, fe glywch chi lawer yn dweud 'yn lythyr' a 'rhy llym', dau
> 'ddatblygiad' a all fod yn gwbl naturiol ac, ym marn y gramadegwyr, yn
gwbl
> anghywir. Enghraifft yw'r naill a'r llall o geisio 'cysoni' rheolau
> gramadeg...
Yr enghraifft orau o'r math yma o beth a glywais erioed oedd eiddo dysgwr o
athro yn Ysgol Dyffryn Ogwen tua 40 mlynedd yn ôl, a soniodd wrth
gydweithiwr (yn ôl y stori) ei fod yn "mynd am êm o olff".
Wyn
|