> Ond mae Term Cymru yn rhoi Y Dreth
> Gyngor yn bennaf, er bod Treth y Cyngor hefyd yn ymddangos.
Oni fyddai "Treth y Cyngor", fel "y Dreth Cyngor", yn gosod
mai biau'r (a bai'r) cyngor yw'r dreth -- yn y modd y dewisodd
Thatcher yr enw Saesneg i awgrymu rhywbeth felly -- ond bod
"y Dreth Gyngor" yn cyfieithu'r ystyr gwreiddiol Saesneg, mai
treth sydd a wnelo rhywbeth a'r cyngor ond nad yw o anghenraid
yn perthyn yn gyfangwbl ac uniongyrchol i'r cyngor yw'r dreth?
Llywodraeth ganol sydd a'r hawl i godi neu i ddiddymu'r dreth
gyngor; gwariant a gofynion llywodraeth ganol sy'n fwyaf gyfrifol
am lefel y dreth, ac i llywodraeth ganol y perthyn yr hawl i osod
neu diddymu'r dreth. Treth y Llywodraeth yw'r Dreth Gyngor.
(Maddeued ymyraeth gwleidyddiaeth, a chywirdeb gwleidyddol, ym
manylion yr iaith.)
|