On Mon, 07 Feb 2005 17:10:46 -0800 (PST), Huw Garan <[log in to unmask]> wrote:
> Mae'n amlwg wedi llyncu thesawrws, mae'r canlyniadau'n fwy diddorol byth
> wrth ofyn am gyfieithu pob cyfieithad yn ol ac ymlaen!
Yr hyn ddigwyddodd, os cofiaf yn iawn, oedd i'r bobl sy'n rhedeg y
safle ofyn i Mark Nodine am ganiatad i ddefnyddio ei eiriadur ef (yr
un y ceir fersiwn ar-lein ohono fan hyn:
http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html ). Yn anffodus,
dyna'r cyfan mae'n ymddangos maen nhw wedi gwneud. Does dim son am
gystrawen, na synnwyr, a pheryg nad ydyn nhw erioed wedi clywed am
lemateiddiwr. Felly cyfieithiad slafaidd gair-am-air geir.
Fe benderfynais i yrru geiriau cyntaf deng can o'r nawdegau drwy'r
peiriant, gyda llaw. Mae'r canlyniadau'n ddiddorol a dweud y lleiaf:
http://cysyllta.blogspot.com/2005/02/ac-ambell-i-lesyn-o-welsh-chwarae-teg.html
Pob 'hwyl'
Rhys
|