Byddaf y defnyddio pin ffelt melyn i uwcholeuo testun yn Word, neu defnyddio
offer priodpol yn Word i'w uwcholeuo
Gwynallt
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Tomos
Anfonwyd/Sent: 04 January 2005 14:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: highlighting
> Llynedd ysgrifennais, mewn ffordd amaturaidd iawn, ychydig gyfarwyddiadau
ar
> weithio gyda ffeiliau "Word" ar gyfer ein dosbarth cyfieithu. Cefais
dipyn
> o drafferth wrth ddisgrifio "highlighting/selecting" darn o destun, gan
> newid o "dewis" i "oleuo" (dylwyn fod wedi defnyddio "aroleuo" mae'n
debyg)
> i "amlygu".
Wps. Beth o'n i'n trio ddweud oedd fod e ddim yn syniad da
cyfieithu termau technegol drwy ddefnyddio geiriau 'cyfarwydd'
o feysydd eraill yn hytrach na meddwl am yr ystyr a throsi hynny.
Mae'n golygu yn aml iawn fod geiriau yn cael ei gor-lwytho gyda
5 neu 6 gwahanol ystyr - sydd ddim yn eu gwneud yn fwy dealladwy.
Mae yna ffasiwn mewn dogfennau corfforaethol seisnig i or-ddefnyddio
geiriau fel 'highlight', a dyw e ddim yn help pan fod hynny yn cael ei
drosi bob tro i 'amlygu' pan fod (mewn rhai achosion) 'dangos',
'datgelu', 'datguddio' ayyb yn well, ond dim ond un enghraifft yw hyn.
Wrth gwrs fod cyfieithwyr yn gyfarwydd a geiriau fel 'amlygu'
ond dwi'n eitha siwr fod e yr un mor anghyfarwydd, i siaradwr
Cymraeg cyffredin, ac 'aroleuo'.
Mi roedd y cyfieithiad Cymraeg gwreiddiol o Google (gan Fwrdd yr
Iaith, neu pwy bynnag wnaethon nhw dalu i gwneud y gwaith) yn
defnyddio 'aroleuo' a mae'n amlwg fod nifer o bobl wedi gweld y gair
yma yn Google a'i ddefnyddio yn eu dogfennau eu hunain. Mae hyn yn
dangos y perygl o ddefnyddio cyfiethiad 'poblogaidd' (yn absenoldeb
unrhyw eiriadur termau).
Efallai fod pwy bynnag a ddewisodd 'aroleuo' wedi pigo y gair cynta
welon nhw yn y geiriadur. Fel mae GyA yn awgrymu, mae na rywun
wedi dyfeisio'r gair i olygu 'highlights mewn gwallt'.
Fel mae'n digwydd, wnes i newid gysoni Google i ddefnyddio 'amlygu'
ymhobman tua 6 mis yn ol, ond mae'n dal i ddefnyddio aroleuo ar y
wefan am rhyw reswm - mae nhw'n araf yn derbyn unrhyw gywiriadau.
|