Maddeuwch i mi am gamddefnyddio'r cylch - ond ella bydd yr wybodaeth yma o
fudd i rywun arall. Yn ystod yr wythnos a aeth heibio mae o leia pump o
ngeseuon at ffrindia agos wedi cael eu hanfon yn ol ata i gan Spamhaus -
ges i'r eglurhad ymhen yr hir a'r hwyr - maen nhw'n esgymuno pawb sydd a
chyfeiriad Tiscali am fod Tiscali'n caniatau i sbamwyr ddefyddio'u
gwasanaethau. Felly i bob pwrpas mae Spamhaus yn defnyddio defnyddwyr
preifat yn ei frwydr yn erbyn Tiscali. Dwi'n cael hynny'n gwbwl
annerbyniol. Er cymaint o niwsans ydi sbam, mae'n rhaid i mi ddeud bod yn
well gen i gael dewis, na bod rhyw gwmni'n dewis drosta i esgymuno fy
negeseuon i gan ffrindia er mwyn dwyn pwysau ar Tiscali. Mi alla i dynnu
nghyfeiriad oddi ar yr esgymunrestr ond mae hynny'n golygu cryn drafferth -
mae gofyn cysylltu a Tiscali; dydi f'Eidaleg i'n ddim digon da i wneud
hynny yn y wlad yma a dwi ddim yn siwr wnaiff Tiscali yn y DU wneud hynny
drosta i. Beth bynnag, fel dwi'n deud mae hyn yn niwsans glan a dwi ddim yn
lecio'r ffordd y mae Spamhaus yn mynd o'i chwmpas hi o gwbwl.
Finito.
Disgruntled, Abruzzo.
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.822 / Virus Database: 560 - Release Date: 22/12/04
|