Ychydig o gefndir:
Ar fwrdd negesu cyfrifiadurol rwy'n ei gyfieithu ar hyn o bryd, mae
'na ddefnyddwyr arbennig sy'n cael eu galw'n "wizards" yn Saesneg (mae
"dewiniaid" yn gyfieithiad digonol o hynny). Mae gan ddewiniaid y pŵer
i gofrestru defnyddwyr newydd, diarddel defnyddwyr drwg a.y.b. Gan fod
modd creu tipyn o ddifrod anfwriadol i'r holl system tra'n ddewin, dim
ond ar gyfyngder mae'r modd dewin yn cael ei ddefnyddio. Dyma welir ar
y sgrîn pan fo defnyddiwr yn cychwyn y modd hynny, ac yn ei adael:
"Wiz! Bang! - You're a wizard again."
"!gnaB !ziW - You feel rather normal."
Dim ysbrydoliaeth o'r ffynhonellau arferol, na chwaith o du Harri
Potter. Croeso i unrhyw awgrymiadau, ond does dim brys - prosiect
amser hamdden yw hwn.
Rhys
|