Mae'r term hwn yn ymddangos mewn dogfen sy'n sôn am ariannu prosiectau yn y
gymuned. Mae'n cyferbynnu 'showcase projects' efo prosiectau a fydd
efallai'n dod â mwy o fudd i'r gymuned yn y tymor hir (ond lle nad oes
cymaint i weld ac edmygu am wn i). Mi wnes i ystyried 'er mwyn sioe' ond nid
dyna'r ystyr. Tydi 'prosiectau arddangos' ddim yn tycio chwaith. Prosiectau
y gellir eu harddangos? Byddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw awgrym.
Diolch
Sylvia
-
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.7.1 - Release Date: 19/01/2005
|