Carwm ymgynnig am wobr y GyrA mwya rhacslyd. Pan oedd Sylvester yn gath
fach mi welodd ei wyn ar y geiriadur yn arw iawn. Mi fyddai wrth ei fodd yn
cripio ac yn llarpio'r tudalenna (papur tena braf i'r dim at winadd cath)..
Mae llawer o'r tudalenna bellach yn glytwaith o ddarna man, wedi'u tynnu o
geg Sylvester a'u smwddio a'u rhoi'n sownd efo selotep. Y llythyren c
gafodd hi waetha. Mae conventicle hyd at corbicula wedi mynd i'r cwn a'r
brain yn gyfan gwbwl. Mae llawer o fy llyfra eraill i wedi diodda difrod
gan Whifflet (y llgodan fawr) ond doedd y geiriadur ddim yn ei filltir
sgwar ynta trwy drugaredd.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.822 / Virus Database: 560 - Release Date: 22/12/04
|