Mae 'celfyddyd elfennol' yn awgrymu naifrwydd celfyddydol a chelfyddyd
eithaf cyntefig, sy'n gwbl groes i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan 'minimal
art', sydd, dybiwn i, yn hoffi meddwl amdani'i hun fel celfyddyd
soffistigedig ac uchelael.
'Minmalaidd' neu 'minimal' fyddwn i'n ei ffafrio yn bendant
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of John Puw
Sent: 20 January 2005 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Minimal Art
Minimaliaeth/minimalaidd yn sicr mewn cerddoriaeth - lle mae cyfansoddwr yn
defnyddio un syniad rhythmig byr neu gasgliad o nodau (prin y gellir galw'r
mwyafrif yn alawon), ac yna'n ailadrodd y peth hyd syrffed gan newid yn
raddol iawn iawn iawn. Mae plant heddiw'n hoff o'r gair boring, gafodd ei
fathu gan y bobl oedd yn gorfod gwrando ar John Adams, Michael Nyman a'u
tebyg. Wedi dweud hynny, mae 'na rywbeth hypnotig am y gerddoriaeth - tebyg
iawn i'r boi yn Little Britain sy'n aml yn gwneud dim mwy na thaflu llwch i
lygaid ei gynulleudfa!
Ond mae'r term mewn cerddoriaeth yn disgrifio cyfres o newidiadau sy'n gallu
digwydd dros fisoedd (oce, hyd at awr, ond ydych wedi gwrando arnyn nhw
erioed?). Mewn celf, byddwn yn meddwl fod y term yn cyfeirio at un llun
syml, elfennol. 'Dw i'n gwybod mai'r un gair sydd amdanynt yn Saesneg, ond
prin fod ystyr y gair yn golygu'r un peth yn y ddau gelfyddyd. Byddai'n
well gen i weld rhywbeth fel Celf Elfennol, fy hun - fe fyddai'r prynwr yn
gwybod be mae o neu hi'n ei brynu o flaen llaw o leiaf.
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 20, 2005 11:32 AM
Subject: Re: Minimal Art
Gyda llaw, ym myd cerddoriaeth, 'minimaliaeth' a 'cerddoriaeth
finimalaidd' yw'r termau cydnabyddedig am 'minimalism' - term a fathwyd
yn wreiddiol, rwy'n credu, gan Michael Nyman. Gan fod y gair yng
nghyd-destun celfyddyd ag ystyr gyffelyb, wela' i ddim byd o'i le ar
ddefnyddio'r un term.
Helen
Ysgrifennodd Sian Roberts:
> Rwy?n cytuno â Catrin am ?lleiafsymiol?.
>
> Beth am ?Celfyddyd Finimalaidd? ? neu a ydi hynny?n wahanol?
>
>
>
> Siân
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
> Sent: 20 January 2005 10:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Minimal Art
>
>
>
> Mae 'lleiafsymiol' yn gwneud i mi feddwl am rifau yn hytrach na chelf.
> Mae 'minimal' yn cael ei gynnig yn Cysgeir am 'minimal'! Ac mae
> minimeiddio yn eitha cyfarwydd am wn i.
>
>
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> Sent: Thursday, January 20, 2005 10:54 AM
>
> Subject: Minimal Art
>
>
>
> Dwi'n gweld "minimol" yn y Termiadur, ond mae "Celfyddyd Finimol" yn
> edrych yn chwithig iawn i fi. Fase "Celfyddyd Leiafsymiol" neu
> rywbeth tebyg yn dderbyniol?
>
> Geraint
>
> ----------------------------------------------------------------------
--
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.7.0 - Release Date: 1/17/2005
>
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|