Petai Swyddfa'r Post yn cynnal cynhadledd gellid ei brandio'n 'Post' a
fyddai'n dderbyniol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Neu gellid galw Jambori'r
Automotive Retailers yn 'Car'. Rhywbeth bachog, fel pennawd yn fwy na
theitl.
Ond mae'n annhebyg fod y fath beth ar gael ar gyfer hwn heb fathu
erchyllair.
Wil
----- Original Message -----
From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 15, 2004 12:07 PM
Subject: Re: E-crime
Wil, pa fath o beth fyddai'n gweithio yn y 2 iaith?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint
Løvgreen
Sent: 15 December 2004 12:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: E-crime
wel, a derbyn y ddadl yma fasen ni i gyd yn deud "post ar y rhyngrwyd" yn
lle e-bost!
Ond wneith e-drosedd ddim y tro i Wil achos mae isio rhywbeth weithith yn y
ddwy iaith.
Ymmm....
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 15, 2004 11:41 AM
Subject: Re: E-crime
> Mi ydych chi gyd yn syrthio i'r trap o greu termau rwtsh
> fan hyn - trosedd yw trosedd os yw'n digwydd ar y stryd
> neu ar y we.
>
> Yn bersonol, fasen i'n osgoi unrhyw e-nonsens a dweud
> 'trosedd ar y rhyngrwyd' (neu, ychydig yn fwy eang
> 'trosedd technolegol' neu 'trosedd electronig').
>
> Wrth gwrs dyw hwn ddim yn cynnig term bachog i'r marchnatwyr,
> ond mae yna ormod o blygu i'r bobl yma'n barod.
|