Dwi wedi bod yn darllen y negeseuon am y term 'gweni' efo diddordeb mawr.
Mi oedd y gair yma yn air poblogaidd iawn rhyw ddeng mlynedd yn ol, pan
oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yng Nghaernarfon. Fel sydd wedi'i ddweud
eisoes, roedd yn cael ei ddefnyddio am unrhyw beth oedd yn hen ffasiwn neu
ddim yn 'cool'.
Roeddwn i wastad wedi meddwl ei fod yn rhywbeth nodweddiadol o Gaernarfon,
ac yn fwy na hynny, o gyfnod penodol, achos dwi ddim wedi'i glwed yn cael ei
ddefnyddio ers blynyddoedd, felly roedd yn ddiddorol iawn clwed fod pobl o
ardaloedd eraill wedi bod yn ei ddefnyddio hefyd.
Digwydd bod, mi nes i drafod y gair ma efo fy chwaer heno a doedd hi ddim yn
cofio ei ddefnyddio o gwbl, er mai dim ond blwyddyn yn hyn na mi ydi hi. (a
minna'n meddwl mai allan o sbeit y dechreuodd hi fy ngalw i'n Gweni o gwmpas
yr un adeg!)
Gwenllian Williams
----- Original Message -----
From: "teulu lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 01, 2004 7:17 PM
Subject: Re: cheesy
> Ac yr oedd rhai ohonom yn yr ysgol yn y 50au a'r 60au a heb deledu o
> gwbl tan tua 1970.........ac ni chlywais i erioed y gair "Gwenni" ma yng
> Nghaernarfon y cyfnod hwnnw.....ond doedd na ddim Gwennis yn dre bryd
> hynny, ta beth.....roeddem i gyd yn smart iawn.....
>
> yn hen a thrist
> magi
> ----- Original Message -----
> From: "Puw, John" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, December 01, 2004 02:26
> Subject: Re: cheesy
>
>
> Sori Dafydd - 'dw i'n anffodus yn rhy hen i gofio Blue Peter yn 1981! M
>
> Mae dy ddymcaniaeth mai gair oedd merched yn ei ddefnyddio yn sicr yn
> gwneud synnwyr - ond roedd y tair yma yn yr ysgol yn y 70au - nid yr
> 80au! A doedd yr un o'r tair wedi ei glywed ers blynyddoedd lawer nes i
> mi godi'r pwnc y bore 'ma.
>
> John
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
> Sent: 01 December 2004 14:23
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: cheesy
>
> Fe 'sgrifennodd Megan:
> > Wedi byw yn y cyffiniau yma, Bangor a Bethesda, am bron i ddeugain
> > mlynedd a gweithio yng Nghaernarfon am sbel ond chlywes i rioed am
> "Gwenni".
>
> Efallai ei fod e'n air o gyfnod arbennig. Mae'r drafodaeth am y gair yma
> wedi dod ntl ac atgofion o'r ysgol ym Mangor yn yr 80au.
> Y merched oedd yn defnyddio'r gair yn bennaf.
>
> Dyfalu ydw i, ond mae'r math yma o beth yn gallu deillio o unigolyn
> (athrawes?) neu o gymeriad mewn llyfr plant. Tebyg i'r anffodus Joey
> Deacon (i bawb sydd o oedran i gofio apjl Blue Peter yn 1981).
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
> yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the
> view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may
> be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
|