Fyddai ymadrodd megis "ymdrin [a'r pwnc] yn ddadansoddol" yn well
na "rhydwythiaeth"?
On Mon, 6 Dec 2004 15:04:21 -0000, Huw Roberts
<[log in to unmask]> wrote:
>Gwelaf mai rhydwythiaeth yw reductionism yng Ngeiriadur yr Academi ond
tybed pwy sy'n gyfarwydd â defnyddio'r term yma i ddisgrifio'r broses o
edrych ar y byd yn y modd mwyaf syml posibl, gan edrych yn aml ar rannau o
system gan fod y system gyfan yn rhy gymhleth.
>Dw i'n gyfarwydd â rhydwytho yng ngyd-destun adweithiau cemegol
(rhydwytho/ocsidio). Sylwaf mai tri chyfeiriad sydd ar Google (yn deillio
o gyfeithu trwy droi at y Geiriadur efallai).
>Unrhyw arweiniad pellach?
>Huw
>
|