Beth am 'glefyd y gwair' - ydy hwnnw'n dal yn dderbyniol?
Catrin
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 09, 2004 10:11 AM
Subject: Re: present/presentation
Dro'n ol fe ofynnodd Anabledd Cymru i ni safoni termau ym maes anabledd,
nid dim ond o safbwynt cywirdeb cysyniadol a ieithyddol, ond cywirdeb
gwleidyddol hefyd. I wneud hyn buom yn trafod gyda defnyddwyr anabl mewn
sawl rhan o Gymru. Un term oedd yn cael ei gollfarnu oedd 'clefyd siwgr'
- roedd yr elfen 'clefyd' yn cael ei anghymeradwyo gan ei fod yn rhoi'r
argraff fod y cyflwr yn afiechyd difrifol. Digon posib y byddai meddygon
yn dadlau fod hynny'n wir, ac nad yw'r duedd bresennol i ffeindio
geiriau bach neis am bob dim yn un iach iawn, ond plygu i ddymuniad
defnyddwyr, a Chymdeithas Diabetes Prydain [sic] yn arbennig, wnaethom
ni. 'Diabetes' felly sy'n mynd a hi.
Delyth
Ysgrifennodd teulu lewis:
> Roedd y Groegiaid yn disgrifo'r cyflwr fel diabetes mellitus, .... ac er
> mai nid siwgr sy'n achosi'r cyflwr, mae'r cyflwr yn effeithio ar lefel y
> siwgr yn y gwaed..... felly mae clefyd siwgr neu glefyd melys yn berffaith
> iawn, ac yn ddealladwy gan bawb. Nid yw diabetes na mellitus yn disgrifo'r
> achos, chwaith......ond awn ni ddim i ffraeo am y pethau ma.....diabetes
> fyddaf innau'n ei roi yn bennaf, mae'n rhaid i mi gyfaddef...os nad yw'n
> ddiwrnod pan dwi'n cael myll ac yn gresynu ein bod yn rhoi'r gorau i
> ymadroddion Cymraeg digonol.....dwi'n cael myll yn aml y dyddiau
> hyn.....byddaf yn cael fy nghwahodd i fynd ar y rhaglen Grumpy Old Men cyn
> bo hir, dwi'n siwr....
> magi
>
> ----- Original Message -----
> From: Huw Garan <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Monday, November 08, 2004 11:14
> Subject: Re: present/presentation
>
> Meddai Magi:
> beth oedd yn bod hefo clefyd siwgr neu'r clefyd melys, dwn i ddim
> Y prif beth oedd yn bod â chlefyd y siwgr, am wn i, oedd nad siwgr
> sy'n achosi diabetes ond methiant y pancreas. Gellid dadlau bod
> pydredd dannedd yn 'glefyd siwgr' gan mai siwgr yw'r prif achos... Er
> bod pawb yn gyfarwydd â 'chlefyd (y) siwgr' fel ymadrodd, efallai
> bod cadw at yr enw Groeg, sef 'diabetes', yn well yn y pen draw?
> Hg
>
> Huw Garan
> [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
>
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|