Yn nghyd-destun cemegyn (e.e. oestrogen) yn effeithio ar dderbynnydd
(sef 'receptor', nid 'receptionist'!) yn y corff, tybiaf mai 'ysgogi'
fyddai'r gair priodol. Ond yng nghyd-destun oestrogen yn hybu tyfiant
tiwmor, heb son yn uniongyrchol am y derbynnydd, efallai y byddai 'hybu'
neu 'adfywio' yn fwy addas.
Dafydd
On Fri, 5 Nov 2004 13:34:59 -0000, catrin.alun
<[log in to unmask]> wrote:
> Yng nghyd-destun oestrogen a chanser y fron - tybed ai 'adfywio'
fyddai'r gair gorau fan hyn - ysgogi/sbarduno ....? Beth yw barn
aelodau'r cylch?
>Catrin
|