Cyd-destun:
"He noted that there were no automatic time outs on Windows NT."
Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg MEU.
Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a
chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am:
"Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod heb
ei defnyddio."
A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy
cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn
cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol??
Diolch,
Ann
|