At ei gilydd dwi'n dueddol o gytuno a neges ola Ann. Ron inna wedi meddwl
rhoi 'y Brenin' hefyd, i osgoi'r broblem (wedi'r cyfan, dim ond un sy yn y
ddrama, te ac mae'n bur amlwg pwy sy dan sylw) Ac wedyn cyfieithu Iarll
Caerloyw - mae hwnnw'n sicir yn edrych yn chwithig heb ei gyfieithu. Ond
fasa'n gas gen i gyfieithu Lear - er ei fod yn bod cyn hynny, i mi enw
priod ydi o ac mi ges fy siarsio gan Dafydd Glyn i beidio a chyfieithu'r
rheini, blaw eu bod nhw eisoes wedi'u cyfieithu i'r Saesneg. Dyna un peth
fyddai'n dan ar fy nghroen i yn Ynysoedd Heledd, oedd clywed cyfieithu
enwau pawb ar y newyddion - John Major, Norman Tebbitt - yr enwa hynny oedd
a chyfieithiad Gaeleg - i'm tyb i sgin neb hawl i gyfieithu enw: mae dyn
naill ai'n Tormod neu'n Norman. Ond yno, wrth gwrs, mae pob enw'n cael ei
gyfieithu gan na does mo'r hawl (ar wahan i bar ifanc fynnodd yn ddiweddar
gael cofrestru eu babi yn ei enw Gaeleg) i ddefnyddio'r enwa Gaeleg yn
swyddogol ee Gilleasbigh (ddim yn siwr sut mae'i sillafu - mae'n siwr y
gwnaiff rhywun fy nghywiro!) yn cael ei gyfieithu'n Archibald ac Alasdair
yn Alexander. Pa! Ta waeth, dwi'n meddwl mod i wedi datrys problem King
Lear - diolch.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.794 / Virus Database: 538 - Release Date: 10/11/04
|