Rwy'n cytuno bod 'hefyd' yn swnio'n fwy naturiol. Mae'n siŵr mai 'In addition' neu 'Additionally' oedd yn y gwreiddiol, ie? Mae'n rhaid bod y cyfieithydd yn meddwl felly bod rhaid defnyddio rhywbeth heblaw 'hefyd' yn y cyfieithiad am ryw reswm. Gallai fod wedi ychwanegu 'â hynny' ar ôl 'Yn ogystal' gan y byddai hynny'n golygu mwy o arian eto i'r sawl sy'n codi yn ôl nifer y geiriau yn y cyfieithiad terfynol yn hytrach nag yn y ddogfen wreiddiol! Yr unig adeg y byddaf i'n codi yn ôl nifer y geiriau yn y cyfieithiad ei hun yw pan fyddaf wedi derbyn y ddogfen wreiddiol ar bapur yn hytrach na ffeil Word.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sylvia Prys Jones
Sent: 13 November 2004 12:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yn ogystal
Yn fy mhrofiad i, mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid yn talu yn ôl nifer y
geiriau yn yr iaith wreiddiol, fel y gallan nhw bennu pris y gwaith cyn ei
gomisiynu.
Gyda llaw, rhag ofn bod rhywrai wedi camddeall, rwy'n cyfeirio at yr
ymadrodd 'yn ogystal' ar ei ben ei hun, nid fel rhan o 'yn ogystal â' - gan
fod Berwyn etc yn sôn am dri gair.
e.e. Yn ogystal, anfonwyd llythyr at yr holl bartneriaid yn gofyn am
wybodaeth.
Mae'n dal i swnio'n chwithig i 'nghlust i, efallai am fod rhai cyfieithwyr
yn ei ddefnyddio drwy'r amser yn lle 'hefyd'. Mae'n siwr mai mater o arddull
ydi o, yn hytrach na 'cywir'/'anghywir'.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 13 November 2004 01:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yn ogystal
Mi dwi wedi bod yn colli allan felly - drwy brisio yn ol rhif y geiriau yn
y gwreiddiol.
dafydd
On Fri, 12 Nov 2004 11:38:13 -0000, INC Cyfieithu Translation
<[log in to unmask]> wrote:
>Pam defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro?
>
>Am fod rhywun yn cael ei dalu fesul gair.
>
>Wil
>----- Original Message -----
>From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Friday, November 12, 2004 11:31 AM
>Subject: Re: yn ogystal
>
>
>Does dim rheol fel y cyfryw, ond byddwn i'n argymell defnyddio 'hefyd' am
>'also' bob tro oni bai bod hynny'n creu ymadrodd trwsgwl neu amwys. Pam
>defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro? Fe all mai ffansi'r cyfieithydd yw
>dewis 'yn ogystal â' neu fe all fod rhyw athro neu athrawes wedi dysgu'r
>cyfieithydd i arfer ymadrodd yr oedd ef neu hi ei hun wedi ymserchu ynddo
>... Byddai John Gwilym Jones yn arfer dysgu ei fyfyrwyr nad oedd angen
rhoi
>coma o flaen 'a' neu 'ac', ond gall defnyddio'r coma yn y mannau hynny
osgoi
>amwysedd neu wneud i'r frawddeg lifo'n well. Gall fod yn anodd
gwahaniaethu
>rhwng mympwy a chywirdeb ar adegau ...
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
>Sent: Friday, November 12, 2004 11:12 AM
>Subject: Re: yn ogystal
>
>
>Beth ydi'r rheol efo'r ymadrodd hwn? Dw i'n darllen gwaith cyfieithydd
ifanc
>sy'n ei ddefnyddio'n gyson yn lle 'hefyd' ac mae'n swnio'n chwithig iawn i
>mi.
>
> 1) rydych chi i fod i ddefnyddio yn ogystal efo rhywbeth ar ei ôl - yn
>ogystal â'r problemau cychwynnol......
>
>2) Mae cydweithiwr yn awgrymu ei fod o'n iawn hefyd ar ddiwedd cymal
>
>rhoi sylw i'r bechgyn, a'r merched yn ogystal.
>
>Unrhyw sylwadau? Neu ydan ni'n mynd i faes cywirdeb iaith, yn hytrach na
>thermau?
>
>Diolch
>
>Sylvia
>---
>-
>---
>Outgoing mail is certified Virus Free.
>Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
>Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
---
Incoming mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
|