I fod yn fanwl gywir, mae "defnyddwyr gwasanaeth" yn golygu "users of *a*
service" yn hytrach na "users of *the* service".
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, November 11, 2004 2:35 PM
Subject: Re: Service-users
> Diolch David,
> Fedra innau chwaith ddim gweld rheswm o gwbl am y cysylltnod, yn y Gymraeg
> na'r Saesneg. Yn ogystal, wela i ddim gwahaniaeth ymarferol
> rhwng 'defnyddwyr gwasanaeth' a 'defnyddwyr y gwasanaeth' yn yr unigol,
> mae'r ail yn llawer mwy naturiol, rhyw fath o ymdrech yw hyn i greu carfan
> o bobl mewn 'business'speak' yn hytrach na dweud y peth yn naturiol. Yr un
> yw'r ystyr, hyd y gwela i. Credaf bod angen (a chyfle) i gyfieithwyr
> wrthwynebu defnyddio termau fel hyn yn y Gymraeg (peth a wnes i ddim y tro
> yma, ond bydd cyfle arall)!
> Dafydd
>
> On Wed, 10 Nov 2004 10:40:32 -0000, =?iso-8859-1?Q?Geraint_L=F8vgreen?=
> <[log in to unmask]> wrote:
>
> >Cytuno,
> >ac yn bendant does dim isio'r cysylltnod yn y Gymraeg.
> >Geraint
> >
> >----- Original Message -----
> >From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> >To: <[log in to unmask]>
> >Sent: Wednesday, November 10, 2004 8:45 AM
> >Subject: Re: Service-users
> >
> >
> >Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg bod
> >yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol.
> >
> >Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael ei
> >drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi,
> >e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o
> >dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y
> >gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau".
> >
> >Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan
> >sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn lle
> >mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r
lluosog:
> >book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking
and
> >mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song writer
> >ond awdur caneuon.
> >
> >Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r
> >cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan
> >ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn."
>
>
|