Diolch byth 'rwyf wedi llwyddo i gysylltu a merch yn yr Is-adran
Awtomatiaeth a gofiai ymweliad yr achwilydd a'r union faterion yr oedd yn
edrych arnynt. Mae'n amlwg o'i heglurhad hi y gall "time-out" olygu nifer o
wahanol bethau, ond gan fy mod i rwan yn gwybod beth oedd y sefyllfa, mae
modd imi ei ddisgrifio:
Re Time out procedures:
Ynghylch Gweithdrefnau cloi gweithfannau'n awtomatig
He noted that there were no automatic time outs on Windows NT.
Nododd nad oedd system Windows NT yn cloi gweithfan yn awtomatig ar ôl
cyfnod o beidio â'i defnyddio.
Diolch i bawb,
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 17, 2004 10:08 AM
Subject: [spam-hx] Re: [spam-hx] Re: time out
> Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi mynd i'r fath drafferth hyd yn hyn. Dw
> i'n amau bod y cofnod, sy'n rhan o adroddiad archwilio, yn ymwneud a'r
> perygl o bobl yn gadael cyfrifiadur ymlaen e.e. wrth fynd am ginio, fel
bod
> rhywun arall yn medru ei ddefnyddio neu godi gwybodaeth ohono.
>
> Caf gyfle i holi ymhellach, gobeithio, nes ymlaen y bore 'ma, a dof yn ol.
>
> Diolch unwaith eto,
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 17, 2004 9:47 AM
> Subject: [spam-hx] Re: time out
>
>
> > Gofynnais i'r mab sy'n gweithio ym maes cyfrifiadureg beth oedd ystyr y
> > frawddeg ac mi ges i'r ateb hwn
> >
> > "Mewn meddalwedd gynna chdi rhywbeth o'r enw threading.
> > http://searchvb.techtarget.com/sDefinition/0,,sid8_gci213139,00.html
> > Mae thread (neu broses) yn gyfres o betha i'r cyfrifadur neud, a mae
> > cyfrifiadur yn gallu rhedeg unrhyw faint o threads mewn un go (er go
iawn
> > mae'n rhedeg darnau bach o bob un ar y tro). Er enghraift fe alli di
> ddeud
> > wrth y cyfrifiadur am chwarae cerdoriaeth tra ti'n sgwennu yn word.
> > Mae gan windows lot o threads syn gwneud yn siwr fod popeth yn mynd yn
> iawn.
> > Mae'r threads yma yn monitro be mae'r lleill yn neud Os ydi thread syn
> > rhedeg rhaglen yn crashio neu'n cymeryd gormod o amser, fe all windows
> weld
> > ei fod heb ddeud ei fod yn ok ers sbel a deud ei fod wedi timeio allan
(si
> > cymraeg da!).
> > Os oes gen rhywbeth automatic time outs yna fydd o ddim yn checkio os
ydi
> > rhywbeth di gorffen mewn da bryd a bydd yn canslo'r thread yn
awtomatig."
> >
> > Dw i ddim yn siwr a ydi hyn o gymorth neu'n creu mwy o ddryswch!
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
> > Sent: 16 November 2004 15:25
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: time out
> >
> >
> > Cyd-destun:
> > "He noted that there were no automatic time outs on Windows NT."
> >
> > Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg
> MEU.
> >
> > Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a
> > chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am:
> > "Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod
> heb
> > ei defnyddio."
> >
> > A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy
> > cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn
> > cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol??
> >
> > Diolch,
> >
> > Ann
> >
> > ---
> > Incoming mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
> >
> > ---
> > Outgoing mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.797 / Virus Database: 541 - Release Date: 15/11/2004
> >
> >
>
>
>
|