Newydd weld y drafodaeth ar 'parenting order' ydw i, felly
ymddiheuriadau am fod ynhwyr yn cyfrannu.
Un peth mae'n rhaid i gyfieithwyr fod yn ofalus rhag ei wneud yw bathu
termau pan fydd termau Cymraeg eisoes yn cael eu defnyddio yn y maes bob
dydd.
Cysylltais a'm gwr sy'n weithiwr cymdeithasol ynghylch y term hwn a
chael gwybod mae 'gorchymyn rhiantu' sy'n cael ei arfer yn gyffredin gan
y proffesiwn.
Dywed hefyd fod yna gwyno mawr gan weithwyr cymdeithasol nad yw'r
dogfennau 'swyddogol' sy'n eu cyrraedd yn Gymraeg yn ddealladwy iddynt
gan nad ydynt yn defnyddio'r termau y maent hwy yn gyfarwydd a hwy.
Os oes ymholiad ynghylch pa dermau Cymraeg sy'n cael eu harfer ym maes
termau gwaith cymdeithasol, yn enwedig gofal plant, mae'n barod i'w
hateb ar ebost ar [log in to unmask]
Delyth
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
> Diolch yn fawr i bawb.
> "Gorchymyn i Rieni" rois i yn y diwedd.
>
> ----- Original Message -----
> *From:* bryn rowlands <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Thursday, October 21, 2004 6:00 PM
> *Subject:* Parenting Order
>
> Gorchymyn Llys yw hwn i beri i riant weithredu mewn modd arbennig
> tuag at ei blentyn, sy'n golygu fel rheol ymwneud a'r gwasanaethau
> cymdeithasol, mynychu cyfarfodydd ag ati. Y mae fel rheol yn para
> am 6 mis.
>
> Mae'n debyg mai 'gorchymyn rhiantu' yw'r cyfieithiad agosaf. Ond y
> mae, fel y sylwyd eisoes, yn swnio braidd yn chwithig. Yn amlach
> na pheidio, gorchymyn i un rhiant fydd o (Rhaid enwi'r sawl y
> mae'n berthnasol iddo. y rhiant a'r plentyn yn y gorchymyn).
>
> Beth , felly, am symyleiddio pethau a'i alw'n 'Orchymyn Rhiant'
>
> Bryn.
>
> ------------------------------------------------------------------------
> *ALL-NEW Yahoo! Messenger*
> <http://uk.rd.yahoo.com/evt=21626/*http://uk.messenger.yahoo.com>*
> - all new features - even more fun!** *
>
|