Diolch.
Tybed fedra i bigo dy frens di ar bwynt arall? Dwi ddim isio cyfadde hwn
i'r CYLCH
Pan ti'n defnyddio "dawns" fel y ffurf ar gelfyddid, ai gwrywaidd neu
fenywaidd ddyla fo fod?
Dwi'n gwbod mai benywaidd ydio pan ti'n son am "ddawns osgeiddig" -"dawns
fawreddog" a ballu , ond yn y dogfennau yma dwi'n drio neud i Dawns Cymuned
Cymru mae fel petai yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol a'r gwrywaidd
sy'n teimlo'n iawn i mi
e.e.
Dance in the Caerphilly borough is delivered in a variety of places where
communities are able to taste dance in its many forms
Mae dawns ym mwrdeistref Caerffili yn cael ei gyflenwi mewn amrywiaeth o
leoliadau lle mae cymunedau yn gallu cael blas ar ddawns yn
ei wahanol ffurfiau
Ydwi'n iawn - neu ai "chyflenwi" a "gwahanol" ddylai fod yma???
Help!!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: annes <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, October 16, 2004 10:54 AM
Subject: opportunities limited only by imagination
> dwi fawr o fardd fel y gwyddost ti, Dwynwen, ond am enhance through
dance -
> tybad fyddai gwell siawns trwy ddawns ne rwbath felly yn da i rwbath? (Gan
> mai petha gweddol ddiystyr ydi'r slogana ma beth bynnag!) Gyda llaw on i'n
> meddwl bod cynnig Alwyn (huala) yn rhagorol.
>
> Annes
----------------------------------------------------------------------------
----
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.767 / Virus Database: 514 - Release Date: 21/09/04
>
|