Sori, John. Smalio oeddwn i. Nid yn unig mae mannau cyfyng, ond maen nhw
wedi gwneud ail ran y ffordd yn unffordd yn y cyfeiriad arall, er mwyn eich
gorfodi chi'n ôl i ganol Porthmadog. Nid yw'n bosibl, mwyach, ddefnyddio'r
ffordd i ddod allan ym mhen arall y dref, o flaen y lori fawr a fu o'ch
blaen chithau wrth ddod i mewn i'r dref, ac felly nid oes diben i bobl sy'n
mynd trwy'r dref ddefnyddio'r ffordd o gwbl.
O ran y syniad arall - diolch yn fawr. Cysylltaf a chyfieithwyr, neu Adran
Briffyrdd, Gwynedd jyst rhag ofn. Does dim byd yn NhermCymru.
Ann
----- Original Message -----
From: "Puw, John" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 13, 2004 10:39 AM
Subject: Re: pinch points
> Mae 'na un ar y ffordd o Johnstown i Rosllenerchrugog, ond ei bwrpas yw
> arafu pobl, nid eu hatal rhag defnyddio'r ffordd. Mae hyn yn swnio'n
> wahanol i'r un rydych chi'n gyfeirio ato ym Mhorthmadog, ond mae'n siwr
> fod 'na gynlluniau tebyg ar gyfer arafu gyrwyr ar draws y wlad. Adran
> Briffyrdd Cyngor Gwynedd fyddai'n gwybod, mae'n siwr - does gennym ni
> ddim cofnod ohono yma.
>
> John
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 13 October 2004 10:10
> To: [log in to unmask]
> Subject: pinch points
>
> Disgrifir ymdrechion i arafu traffig trwy "chicanes and pinch points".
> Cymeraf fod yr ail yn cyfeirio at y mannau cyfyng di-angen sy'n rhan o'r
> cynllwyn i'm rhwystro rhag ddefnyddio ffordd gefn syth (hen lwybr yr
> rheilffordd) i osgoi'r traffig ym Mhorthmadog. A oes 'na enw
> "swyddogol"
> neu a allaf eu galw'n "fannau cyfyng"?
> Ann
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may be
legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
>
>
|