Mae "cynghorion" yn swnio'n iawn i mi.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 26, 2004 1:52 PM
Subject: Re: planning informatives
'Doedd gen i ddim syniad a oeddech chi'n iawn, a meddyliwn y byddai'n yn
rhaid imi gymryd fy nghyngor fy hun a mynd ar ōl rhywun yn yr adran
gynllunio'n uniongyrchol i gael eglurhad. Hefyd, byddai'n rhaid bod yn sicr
nad oedd 'na rywbeth *arall* a elwid yn "planning specifications".
Wedyn, sylweddolais yn sydyn 'mod i wedi bod yn edrych am "planning" +
"informative" ar y we, a byddai chwilio am "informatives" yn torri i lawr
cryn dipyn ar y ?trawiadau. Yn y diwedd, cefais er eglurhad hwn gan un
cyngor:
"Informatives are sometimes attached to a permission to advise or request
the applicant to address items that cannot be dealt with in the conditions.
The main difference is that informatives are not requirements and not
therefore enforceable."
Cefais hefyd fod cyngor arall yn defnyddio "informatives" ac "informative
notes" fel petai i olygu'r un peth.
O edrych ar enghreifftiau, mae'n ymddangos bod "informatives" yn ymwneud a
phethau eraill y mae'r ymgeisydd yn debyg o'u gwneud wrth weithredu ei
ganiatād, pethau sydd o bosibl yn gofyn am ganiatād gan gyrff eraill e.e.
wedi cael caniatād i ddymchwel adeilad, rhaid iddo beidio a llosgi'r
adfeilion ar y safle; wrth effeithio ar lwybr troed bydd yn rhaid iddo wneud
trefniadau ar gyfer gwirio'r llwybr. Teimlais na fyddai "nodiadau er
gwybodaeth" yn awgrymu unrhyw ddisgwyliad i'r ymgeisydd weithredu ar yr
wybodaeth, a byddai "awgrymiadau", "argymhellion" neu "gynghorion" yn
cyfleu'r sefyllfa'n well, ond maent yn crwydro braidd yn bell o'r Saesneg.
Hoffwn awgrym Bruce o "nodiadau hysbysol", a gallaf ddefnyddio hwnnw, efo'r
Saesneg mewn cromfachau, nes i'r cynghorwyr gynefino a'r ymadrodd, ond
arhosaf am ychydig ddyddiau rhag ofn clywed bod term arall eisoes yn cael ei
arfer - mae'n ymddangos yn od iawn nad yw wedi codi mewn gwaith cyfieithu
cynghorau Cymru o'r blaen. Mae'n ymddangos yn od hefyd fod cymaint o
gynghorau yn defnyddio'r gair "informatives" wrth ymdrin ag ymgeiswyr, heb
egluro beth yw eu swyddogaeth na'u hawdurdod.
Diolch,
Ann
----- Original Message -----
From: "John Williams cyfieithydd YMLL"
<[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 26, 2004 11:47 AM
Subject: planning informatives
> Os mai'r holl wybodaeth berthnasol i gais penodol yw'r ysytyr, beth am
fanyleb - manyleb gynllunio neu ffurf luosog, mae planning specifications yn
golygu'r un peth yn y cyd-destun, am wn i.
>
>
> ______________ ______________ ______________ ______________
> Sent via the WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk
>
>
>
>
>
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * * *
>
> This e-mail message and any attachments are confidential and intended
solely for
> the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you
are not
> the intended recipient and have received this e-mail in error, any use,
dissemination,
> forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are
requested to
> contact the sender and delete the material from any computer. Opinions,
conclusions
> and other information in this message that do not relate to the official
business of
> Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor
endorsed by it.
>
> Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
ac fe'i
> bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad
chi yw'r
> derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy
gamgymeriad,
> gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
> chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd
o bob
> cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam
> yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y
neges hon nad
> yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
>
> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * * *
>
|