Codais y cwestiwn hwn flwyddyn yn union yn ol, ac mae'r broblem wedi dod
rownd eto. Y tro diwethaf,ni chefais unrhyw ymateb a gadewais y gair
"informatives" yn Saesneg yn y diwedd. Yn anffodus, mae'r gair mor
gyffredin fel mae'n anodd dod o hyd i wefannau perthnasol. Tybed a oes 'na
ragor o gyfieithwyr llywodraeth leol yn darllen yn negeseuon heddiw ac yn
medru helpu.
Dyma'r neges wreiddiol:
"outline planning permission to be granted for the development subject to
informatives regarding the submission of the detail for information purposes
only."
Holais y clerc, sydd wedi ymateb fel hyn:
Rwyf wedi cael gair gyda'r Adran Cynllunio ma na air "Informatives" yn y byd
cynllunio sef yr hyn mae ymgeisydd i fod darllen a cymryd sylw at yn ei
gais.
A oes 'na derm Cymraeg cydnabyddedig yn y maes, os gwelwch yn dda?
Ann
|