David - er nad oes gen i gynnig i ti, dwi'n credu y byddai defnyddio
'llipryn' yn anheg iawn ar y Llipryn Llwyd (llyfrau Rala Rwdins). Doedd o
ddim yn geek! Roedd o'n berson bach trist ac unig, ond dydy hynny ddim yr
un peth!
O ddifrif - yn sgil llyfrau Angharad Tomos, mae 'Llipryn' ar dafod leferydd
plant a dwi'n meddwl y byddai'n biti ei ddefnyddio i ddisgrifio 'geek'.
Catrin
----- Original Message -----
From: "Symons, David" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 14, 2004 9:31 AM
Subject: Re: geek
Bryn,
Diolch am eich sylwadau. O edrych yn GPC, dw i wedi nodi 'llipryn', a allai
cydweddu'n dda â'r cysyniad o 'geek' hefyd....
O ran 'Waterside Business Park', ydych chi'n meddwl am y datblygiad newydd
yn SA1 neu'r lle yn y Parc Menter (Lakeside Business Park). O ran y lle yn y
Parc Menter, rydyn ni'n defnyddio 'Parc Busnes Glan y Llyn'.
Sai'n credu ein bod ni wedi dod ar draws 'Waterside Business Park' eto ond
yng nghyd-destun SA1 a'r ardal forwrol (National Waterfront Museum -
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau) byddem ni'n defnyddio 'Parc Busnes y
Glannau'.
Pob hwyl,
David Symons
Uned Gyfieithu San Helen, Abertawe
St Helen's Translation Unit, Swansea
Ffôn/Phone 01792 462067
Ffacs/Fax 01792 646903
> ----------
> From: bryn rowlands[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 14 September 2004 09:12
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: geek
>
> Ni chredaf bod angen bathu. Y mae'n siwr o fod ddigon o gyffelybiaethau yn
> ein rhyddiaith glasurol y gellid eu haddasu neu eu hatgyfodi. Y broblem,
> wrth gwrs, yw cael yr amser i chwilota amdanyn nhw!
>
> Daw llythyrau'r Morisiaid a gwaith Twm o'r Nant i'r meddwl, ond ni chanfum
> enghraifft dda iawn eto. Er nad yw'n wreiddiol yr union ystyr, mae eitha
> sain i 'climach' Gw. GPC,
>
> Ar fater arall llawer mwy rhyddieithol, David, a oes gennych yn y Ganolfan
> acw enw Cymraeg ar
> Waterside Bussiness Park, Abertawe?
>
> Bryn
>
> David Symons <[log in to unmask]> wrote:
>
> Yng nghyd-destun person sydd wedi'i ymroi i ryw diddordeb
> (cyfrifiaduron,
> gêmau ffantasi, math 'na o beth) y mae'r mwyafrif o bobl eraill yn
> ei
> chael yn anffasiynol neu'n 'drist'.
>
> Oes unrhyw un wedi dod ar draws term addas yn y Gymraeg? Oes modd
> bathu
> term? Mae diffyg ysbrydoliaeth yma yn Abertawe y bore 'ma, mae arna
> i
> ofn.... allwch chi helpu?
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> DS
>
>
> _____
>
> ALL-NEW Yahoo! Messenger
> <http://uk.rd.yahoo.com/evt=21626/*http://uk.messenger.yahoo.com> - all
> new features - even more fun!
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|