Mae'n siwr bod llawer ohonoch wedi derbyn y neges hon eisoes - ond rhag ofn
...
Ann
Annwyl Bawb,
Hoffwn gymryd y cyfle i'ch hysbysu am Cymru ar y We.
Wales on the Web/Cymru ar y We
www.cymruarywe.org <http://www.cymruarywe.org/>
www.walesonthewb.org
<http://www.cymruarywe.org/>Porth i ddeunudd o ddiddordeb Cymreig ar y
We Fyd Eang. Mae'n arweiniad ar-lein i wefannau o safon uchel a
dilysiedig sydd yn darparu gwybodaeth dibynadwy ar Gymru a phob agwedd
o'r bywyd Cymreig. Mae Cymru ar y We yn cynnig cyfeiriadur o wefannau
sydd wedi cael eu cadarnhau yn rhai dibynadwy ac awdurdodol yn ol
canllawiau gwrthrychol.
Rydym wrthi yn hysbysebu'r porth led-led Cymru. Buasem yn gwerthfawrogi
unrhyw adborth yn ymwneud â Cymru ar y We fel y gallwn barhau i
ddatblygu a gwella'r gwasanaeth.
Bellach, mae'r nifer o wefannau dilysiedig a restrir ym mhorth Cymru ar
y We wedi cyrraedd 4000 ac mae'n parhau i dyfu gan gwmpasu ystod
ehangach o bynciau. Rydym am i'r nifer o bobl sy'n gwybod am Cymru ar y
We gynyddu fel y gallant wneud defnydd o'i adnoddau, a gobeithwn y
gallwch chi ein helpu.
Buasem yn ddiolchgar pe gallech hysbysu eich gweithwyr am fodolaeth
Cymru ar y We: Gall Cymru ar y We fod yn ddefnyddiol i chi ym mha bynnag
faes yr ydych yn gweithio.
Buasem yn llwyr werthfawrogi'ch cymorth ac yn gobeithio y dewch i
ystyried Cymru ar y We yn adnodd diddorol a defnyddiol
Llawer o ddiolch
Aled
--
Aled Betts
Rheolwr prosiect/Project Manager
CAYW- Cymru ar y We/Wales on the Web
Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU
Tel 01970 632515
www.walesontheweb.org
www.cymruarywe.org
|