Dwi'n trio llunio rhestr o wahanol fathau o lety, ac yn cael ychydig
drafferth efo pethau fel Guest House. Yn y gorffennol, wedi
defnyddio 'Gwesty bach', ond yn anffodus mae'r rhestr yn cynnwys 'Small
hotel' hefyd. Tybed oes gan rhywun awgrym gwell na'r hyn dwi wedi cael hyd
yn hyn. Hefyd, yw 'Bwyty gydag ystafelloedd' yn swnio'n iawn ar
gyfer 'restaraunt with rooms' neu oes gan rywun awgrym mwy
bachog? 'Townhouse' - 'TŷTref? Dymar rhestr gyflawn am cynigion i hyd yn
hyn, os oes gennych awgrym gwell ar gyfer unrhyw un, byddwn yn falch iawn
ou clywed:
Hotel Gwesty
Bed and Breakfast Gwely a brecwast
Country House Hotel Gwesty Plasty Gwledig
Guest House Tŷ Llety
Restaurant with rooms Bwyty gydag ystafelloedd
Metro Hotel Gwesty Metro
Small Hotel Gwesty Bach
Townhouse Tŷ Tref
Farmhouse Ffermdy
Inn Tafarn
Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth
Elin
|