Newydd sylwi ar y drafodaeth hon felly rhy hwyr maen debyg! Ond,
mae "organisational behaviour" yn 'hen' bwnc ym myd busnes. Dyma faterion
megis sut mae sefydliadau yn ymddwyn yng nghyd destun ffyrdd o weithio,
mae'n cynnwys yn arbennig y gwahanol ffyrdd y gall pobl weithio a
chyflawni eu dyletswyddau yn ogystal a'u hamcanion eu hunain. Dyma'r pwnc
mae llyfrau Charles Handy yn delio ag ef, mwy na heb.
Dafydd
("ymddygiad sefydliadol" felly, efallai)
On Wed, 4 Aug 2004 15:18:00 +0100, Glenys M Roberts
<[log in to unmask]> wrote:
>Mae'n bosib - er mai cyrsiau mwy penodol 'gyfrifiadurol' fel 'Human
Computer
>Interaction'; 'Database Systems'; 'Systems Design and Group Project';
>'Component Software Development'; 'Networks and Data Communications' yw'r
>rhan fwyaf ar y rhestr, mae 'na rai sy'n ymwneud â byd busnes yn fwy
>cyffredinol, e.e. 'Introduction to Marketing' a 'Financial Accounting'.
>Mae'n well imi holi'r cwsmer, debyg! Diolch am y cyngor.
>Glenys
>
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Wednesday, August 04, 2004 2:37 PM
>Subject: Re: Organisational Behaviour
>
>
>> Enw ar gwrs mewn adran Gyfrifiadureg. Ydy'r 'organisational' yn
>> ymwneud â threfnu, neu â chorff/sefydliad o ryw fath?
>
>Mae'n elfen o fewn nifer o gyrsiau busnes neu sydd a elfen o
>astudiaeth busnes - yn edrych ar berthynas unigolion a grwpiau o fewn
>sefydliad.
>
>Ar wefan Coleg Menai mae nhw'n defnyddio Gwyddor Ymddygiad am
>Behavioural Science felly ydi 'Ymddygiad Sefydliadol' yn addas?
>
>Wrth chwilio am hwnna ar Google mae'n canfod 4 dogfen yn unig ond
>mae'n dweud:
>
>Did you mean "ymddygiad sefydliadau" (yn saesneg, dyw'r fersiwn
>Gymraeg ddim yn gwneud hyn am ryw reswm).
|