Dwi'n meddwl fod canslo'n well na diddymu achos canslo gweithred mae rhywun,
nid ei diddymu.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 13, 2004 2:41 PM
Subject: Re: Abort, Cancel
> Llawer iawn, iawn o ddiolch am y cyfeiriad hwn. Dw i wedi bod yn bwriadu
> edrych ar y wefan hon, heb sylweddoli'n iawn beth ydyw. Mae wedi bod yn
> fodd imi gadarnhau sawl term nad oeddwn i wedi holi amdano yma, ac yn
debyg
> o fod o ddefnydd mawr yn y dyfodol.
>
> Ar ol ystyried y cynigion yno, dw i wedi defnyddio "Diddymu" ar gyfer
> "Cancel" a "Terfynu" ar gyfer "Abort".
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 13, 2004 1:04 PM
> Subject: Re: Abort, Cancel
>
>
> > > 'Roeddwn i'n pendroni ynghylch "Dileu" ar gyfer "Cancel", ond gwelaf y
> > > gellir (gweler "CySill") cael "Delete" and "Cancel" ar yr un tudalen a
> bod
> > > CySill yn defnyddio "Dileu" a "Canslo" - unrhyw sylwadau?
> > >
> > > Beth am "Abort"? "Atal"?
> >
> > Mae'n werth edrych ar:
> >
> > http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro/index.php?lg=cy&
> >
> > ond cymerwch binsiad mawr o halen gyda'r dewis o eirfa
> >
> > e.e. mae fy nefnydd i o 'diofyn' yn sefyll allan ymysg y
> > rhagosodedigion
> >
> > Mae 'erthyl' yn anghywir am abort yn y cyd-destun yma
> >
> > Mae gan 'atal' arlliw o 'prevent' sydd ddim yn rhoi'r ystyr iawn.
> >
> > Felly 'terfynu' fasen i'n ddefnyddio..
> >
|