Mi ddois innau ar draws 'goredrych' ar y We pan oedd arnaf angen term am
'overlook' ond roeddwn yn gyndyn o'i ddefnyddio ar y pryd am ei fod yn swnio
fel pe bai'n golygu 'edrych yn ormodol', hynny yw 'look too much'- c.f.
'gorlwytho', 'goryrru' a.y.b. O edrych yn Google, mae un enghraifft o
'trosedrych' ar wefan Cyngor Gwynedd hefyd - mae'n well gen i hwnnw.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Elen Mererid Watt
Sent: 26 July 2004 10:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Overlooking
'Goredrych' yw'r term sy'n cael ei arfer gan Adran Gynllunio Gwynedd -
dwn i ddim os yw'r term yn gymwys i'r holl enghreifftiau gwahanol dan
sylw.
Mererid
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 26 July 2004 10:48
To: [log in to unmask]
Subject: Overlooking
A oes 'na rai sy'n gorfod ymdopi a^'r term hwn ym maes cynllunio?
Weithiau mae'n golygu y byddai'r adeilad newydd yn edrych dros adeilad
sydd yno eisoes, weithiau'r ffordd arall rownd, ac weithiau'r ddwy
ffordd - ac wrth gwrs weithiau mae mwy nag un adeilad yn mynd i edrych
dros y llall, neu gael y llall yn edrych drostynt.
'Rwyf wedi bod yn defnyddio amrywiadau ar "y ffaith bod y naill adeilad
yn edrych dros y llall", ond byddai'n dda gen i gael rhywbeth byrrach
(ac eto'n
naturiol) a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer pob achos, yn arbennig mewn
achosion pan nad yw'r testun yn egluro'n union beth sy'n digwydd.
Rhaid cyfaddau, 'dw i'n amau'n fawr a yw hyn yn bosibl!
Diolch yn fawr,
Ann
|